Tudalen:Chwalfa.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd meddwl Llew, o dan ddylanwad ei hiraeth efallai, braidd yn feirniadol. "Ond os mai un o'r Borth oedd o, sut yr oedd carrag 'i fedd o yn Sir Fôn?" gofynnodd.

"O, rhai o Sir Fôn oedd 'i rieni fo. Newydd ddŵad i'r Borth 'cw yr oeddan' nhw. Ac wedi i'r hogyn farw, 'roeddan' nhw'n 'dyfaru'n gynddeir' iddyn nhw adael yr hen gartra' o gwbwl. Oeddan', 'nen' Duwc. Saer, os ydw' i'n cofio'n iawn, oedd 'i dad o, Huw Jones, ac mi fu bron iddo fo â thorri'i galon ar ôl Ben. Do, ac mi aethon' â fo bob cam i Sir Fôn i'w gladdu.'

"Y?" Yr oedd amryw o straeon Simon Roberts

yn rhai go anodd i'w coelio, ond fel rheol gwrandawai Llew yn ddwys, gan geisio ymddangos yn llwyr grediniol. Ond heno, a'i feddwl yn feirniadol, ni allai lyncu'r stori hon.

"Do, 'nen' Duwc. I ryw le bach yng nghanol y wlad, ddim ymhell o'r pentra' lle 'roedd 'Dwalad' yn byw. Ac 'rydw' i'n cofio un arall, dyn o Gaer Fenai, yn hiraethu cymaint am 'i gartra' nes i'w wallt o fynd yn wyn mewn wsnos. Na, 'dydi hiraeth o ddim iws i neb." A phoerodd y Bosun yn huawdl i'r môr.

"Ond yr hogyn 'na gafodd 'i gladdu yn Sir Fôn . . . ?"

"Ia?"

"'Ddaru chi ddim deud iddo fo farw ryw wythnos cyn i chi gyrraedd Rio?"

"Do, pum niwrnod, os ydw' i'n cofio'n iawn." "A chitha'n mynd ô fo'n ôl adra' i'w gladdu?" "Ia. Ia, fachgan. Ia, 'nen' Duwc.

"Petai 'i garrag fedd o yn Sir Fôn mi fedrwn i ddallt y peth. Mae 'na garrag felly yn Llechfaen 'cw, a'r dyn wedi'i gladdu yn y môr pan oedd o ar 'i ffordd i Awstralia, ond.

"O? 'Ddeudis i mo'r stori honno wrthat ti, dywad?"

"Naddo. Ond mae'n well ichi 'i chadw hi 'rwan, Seimon, gan fy mod i ar y watch a . . . "

"A'r llong yn byhafio fel merlen mewn sioe! . . . 'Roedd y Ciaptan a finna' wrth wely Ben druan pan fuo fo farw, ac 'Mae 'roeddan ni'n dau yn gwbod bod y diwadd yn agos. arna' i isio i chi addo un peth imi,' medda' fo. Rhwbath, Ben, rhwbath,' meddai'r Ciaptan. Mynd â fi'n ôl i gael fy nghladdu yn yr hen bentra' yn Sir Fôn,' medda' 'fynta'. Mi edrychodd y Ciaptan a finna' ar ein gilydd, heb wbod be' i'w ddeud. 'Wrs gwrth, Ben, wrs gwrth,' medda'r Ciaptan