Tudalen:Chwalfa.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i drio tawelu'i feddwl o, ac mi ddeudis inna' yr un peth. Ond 'doedd yr un ohono' ni'n meddwl cadw'r addewid. 'Roedd y peth yn amhosib'. Mynd â chorff marw i Rio, ac yn ôl wedyn dros chwe mil o filltiroedd i Gymru! Dros y Lein! Drwy ffwrnas y Tropics! Ond 'doeddan ni ddim gwaeth ag addo, nag oeddan?"

"Ond mi ddaru chi gadw'r addewid?" ebe Llew, gan ddyfalu sut yr âi gweddill y stori.

"Do. 'Estyn fy Meibil imi, Seimon,' medda' Ben. Ac wedi imi 'i roi o iddo fo, ' 'Rŵan, Ciaptan,' medda' fo, ' mae arna' i isio i chi wneud llw. Rhowch eich llaw ar hwn. chditha', Seimon.' Ac yn y fan a'r lle, fachgan, fe fu raid i'r hen Giaptan Owen a finna' wneud llw y basan ni'n mynd â Ben yn ôl adra' i'w gladdu. A chyn gyntad ag yr on i wedi deud y gair ola' o'r llw, dyma Ben yn rhoi ochenaid fawr ac yn cau 'i lygaid am byth. Ia, 'nen' Duwc."

"'Roeddach chi mewn lle cas, Seimon."

"Cas gynddeir', fachgan. Yr hen Giaptan Owen yn enwedig, oherwydd yr oedd o'n ddyn crefyddol dros ben. 'Ddaru o ddim cysgu winc y noson honno, a'r bora wedyn dyma fo'n fy ngalw i ato fo. Rhaid inni drio meddwl am ryw ffordd i'w gadw fo, Seimon,' medda' fo. Be' am rym, Syr?' meddwn i. Rym?' medda' fo. Ia, rym, Ciaptan. 'I biclo fo mewn rym.' Wrs gwrth, 'roedd 'na ddigon o rym i'w gael ar long yr amsar hwnnw. Diar, yr ydw' i'n ein cofio ni'n teneuo'r paent hefo rym droeon wrth beintio'r llong. Ydw', 'nen' Duwc."

"A dyna ddaru chi hefo'r corff? Tywallt rym drosto fo?"

"Ia, fachgan. Ac wedi inni gyrradd Rio, dyma roi câs tena' o blwm tu fewn i'r arch i gadw'r rym rhag mynd i'r coedyn. Ac felly yr ethon ni â Ben yn 'i ôl bob cam i'r Borth, a'i gorff o, pan ddaru ni gyrradd yno, yn edrach fel 'tasa' fo newydd farw. Ac yr oedd cydwybod yr hen Giaptan Owen a f'un inna' yn reit dawal . . . Ond dyna on i am ddeud, cyn imi ddechra' sôn am Ben druan, nad ydi hiraethu am gartra' ddim yn talu o gwbwl ar y môr. Os llongwr, llongwr amdani. Ac 'roeddwn i wedi sylwi-rhaid iti fadda' i mi am sôn am y peth-dy fod di'n bell dy olwg am oria' hiddiw. Twt, dyma chdi, yn hogyn yn dy nerth, yn cael cyfle i weld y byd, a be' wyt ti'n wneud wrth ddŵad yn agos i Rio? I Río o bobman! Y ddinas hardda' yn y byd!