Tudalen:Chwalfa.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edrychodd ef a Simon Roberts yn syn i gyfeiriad y llais. Cerddent drwy stryd fechan, dlodaidd, a rhes o dai-bwyta pur ddi-nod yr olwg hyd un ochr iddi. Wrth fwrdd tu allan i un ohonynt, eisteddai clamp o Lascar croenfelyn, yn wên i gyd, a chredodd Llew am ennyd mai hwnnw a alwasai arno. Ond wrth ei ochr ef yr oedd rhywun arall a chwifiai'n wyllt arnynt.

"Y nefoedd fawr! Huw Deg Ugian!"

Pwy?" gofynnodd Simon Roberts.

"Hogyn o Lechfaen 'cw."

Ymunodd y ddau â'r lleill wrth y bwrdd, ac uchel fu sŵn y Gymraeg am dipyn yn y stryd honno yn Rio.

"Be' goblyn wyt ti'n wneud yma, Huw?"

"Mi benderfynis inna' hwylio ar led wedi imi gyrraedd Hamburg, fachgan. A dyma fi."

Cyflwynodd y Lascar iddynt, ac er mwyn bod yn foesgar, ymbalfalodd Simon Roberts yng ngwaelod ei gof am eiriau y gallai'r dyn eu deall efallai.

"Tres chaud to-night," meddai, gan ddewis dau o'r dwsin o eiriau Ffrangeg a wyddai a chan wneud yr ystyr yn glir drwy sychu chwys dychmygol oddi ar ei dalcen.

Nodiodd a gwenodd y dyn, gan sychu lleithder tebyg oddi ar ei dalcen yntau. "Ia, poeth iawn," meddai.

"Yr argian Dafydd, 'ydi hwn yn dallt Cymraeg?" gofynnodd i Huw.

'Chydig eiria'," atebodd Huw. "Fi dysgodd o ar y feiej. Mae o'n gwbod lot o ieithoedd ac 'roedd o'n sâl isio siarad tipyn o Gymraeg er mwyn cael tynnu coes y Mêt. Un o Aberteifi ydi'r Mêt."

Llifai bywyd amryliw Rio heibio iddynt, a syllodd Simon Roberts arno mewn dirfawr fwynhad. Nid oedd Carnifal blynyddol y Borth yn ddim wrth y pasiant beunyddiol hwn, a theimlai y gallai eistedd yno wrth y bwrdd yn ei wylio ac yn sipian gwin am byth. Felly y teimlai bob amser yn Rio, a phetai'r hen goesau goblyn a oedd ganddo yn debyg o fyhafio, ni hidiai ffeuen am y môr na'r Borth na 'Dwalad' yn Sir Fôn na dim. Trocs ei ben ymhen tipyn i edrych ar y ddau Gymro arall. Yr argian fawr, ni thalent hwy yr un sylw i'r dieithrwch rhyfeddol o'u blaen er dim a welent o'r bywyd o'u cwmpas, ni fyddai waeth eu bod yn eistedd mewn twnnel yn y chwarel ddim. Gwrandawodd.

O, ydi, mae hi'n siŵr o fod drosodd bellach, Llew."