Tudalen:Chwalfa.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond wedi un mis ar hugain o streic, nid hawdd oedd ymfflamychu. Erbyn hyn troesai brwdfrydedd yn gyndynrwydd, a'r sêl gynnar yn benderfyniad tawel. Aethai byddin allan i ennill buddugoliaeth, ond llithrai brawddegau fel " peidio ag ildio "a" sefyll yn gadarn i'r diwedd " yn amlach i'r areithiau yn awr. O du awdurdodau'r chwarel nid oedd ond tawelwch dwfn.

Yr oedd rhes o dai newydd yn cael eu hadeiladu uwchlaw Pentref Gwaith, a chawsai Idris addewid am un ohonynt. Byddai'r tŷ'n barod erbyn diwedd Medi, a gwyddai y neidiai eraill at y cynnig os dymunai ef gael gwared ohono a dychwelyd i'r Gogledd. Pan feddyliai am droi'n ôl i Lechfaen, gwyddai y byddai'n chwith ganddo ar ôl bywyd eiddgar, cyffrous, y De a'i bobl fercurial, gynnes, garedig. Bu'r gaeaf a aethai heibio yn addysg iddo. Pregethwyr mwyaf y genedl, darlithwyr gorau'r wlad, siaradwyr huotlaf gwleidyddiaeth, rhai o ddysgedigion enwocaf Lloegr, cantorion, actorion, gwŷr digrif-deuent oll i'r Cwm yn eu tro a thyrrai torfeydd i gapel neu neuadd i wrando arnynt. Ac mewn cymanfa ac eisteddfod ac oratorio, gwefreiddiai cân y bobl gerddgar hyn bob gwrandawr. Collai Idris hefyd y dadlau chwyrn yn y pwll, ynghylch Robert Owen a Karl Marx un ennyd a'r ennyd nesaf ynghylch rhagoriaethau W.J. Bancroft neu Gwyn Nicolls neu Dicky Owen neu eraill o wroniaid y bêl hirgron. Gwenodd wrth gofio bod Dic Bugail bellach mor ffyrnig â neb yn yr ymrafaelion hyn. Yn ffyrnicach weithiau, oherwydd wrth ddychwelyd yn fuddugoliaethus o Abertawe ym mis Mawrth, gorfoleddodd gymaint uwch darostyngiad Iwerddon nes i Jerry O'Driscoll benderfynu'n sydyn ei ddarostwng yntau. Ond chwarae teg i Jerry, fe gynorthwyodd i gario Dic adref o'r orsaf pan gyrhaeddwyd Pentref Gwaith.

"Wel, Id, mae'r amser yn mynd ymlaen, fachgan," meddai Dic yn yr heding un amser cinio yng nghanol Awst. "Un mis ar hugian bron 'rŵan, yntê?"

"Ia. Doedd neb yn meddwl y basa' hi'n para cyhyd. Mae hi'n o ddrwg arnyn' nhw yn Gwynfa' erbyn hyn, mae arna' i ofn, er bod 'Nhad a 'Mam yn trio swnio'n ddewr. A druan o F'ewyrth John tros y ffordd, a Cheridwen, 'i ferch o, mor wael."

"Mi wnaeth dy frawd Llew yn gall i fynd i'r môr, ond do?" "Do, am wn i, wir, a dim argoel setlo. Sut longwr wnaiff