Tudalen:Chwalfa.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD II

Eiddigedd o Ddic Bugail a wnaethai Idris braidd yn fyrbwyll. Llwyddasai Dic i gael tŷ mewn stryd yn ymyl Howel Street ym Mehefin, a chan na fwriadai ddychwelyd i'r Gogledd, anfonodd am ei wraig a'i blant a'i ddodrefn yn ddi-oed. Erbyn hynny, gweithiai'r ddau gyfaill gyda'i gilydd mewn tir caled a gallent yno ddefnyddio'u medr fel chwarelwyr ac ennill gwell cyflog nag fel labrwyr. Tyllu â chŷn a thanio a chlirio ysbwrial yr oeddynt, gan yrru "heding caled "-" lefel " yn eu hiaith hwy yn y chwarel- o un wythïen i un arall ryw dri chant o lathenni i ffwrdd. Edrychid arnynt fel gweithwyr arbennig tra oeddynt wrth y gorchwyl hwn a mwynhaent wyth awr yn lle naw awr a hanner o shifft. Teimlai'r ddau'n llawer hapusach yn awr.

O ddydd i ddydd fel y siaradai Dic am ei wraig Siân neu am un o'i blant, dwysâi eiddigedd Idris ohono a hiraethai fwyfwy am ei aelwyd ei hun. Dim ond dwywaith, pan oedd gartref tros y Nadolig ac yna tros y Pasg, y gwelsai ei faban Ifan, a anwyd ym Medi, ac er bod llythyrau Kate yn rhai aml a llawn, dyheai ei lygaid am wylio'r bychan yn tyfu a'i glustiau am glywed ei barabl di-eiriau. Yr oedd yn hapus iawn yn nhŷ William Jenkins, ond ychydig a welai ar ei hen bartner Bob Twm yn awr. Am ddau reswm: gweithiai hwnnw ar y shifft nos ers tro, a syrthiasai tros ei ben mewn cariad. Bob gyda'r nos, rhuthrai'r hen lanc tybiedig i weld ei "wejan."

Mehefin, Gorffennaf, Awst ond nid oedd argoel y deuai diwedd buan ar y streic. Câi Idris lythyrau oddi wrth ei dad a gyrrai Dan gopi o'r "Gwyliwr " iddo bob dydd Gwener. Dilynai'n eiddgar adroddiad y papur o'r areithiau yn y cyfarfod wythnosol, gan weld a chlywed Robert Williams a J.H." ac eraill ar lwyfan y Neuadd. Ond fel y treiglai'r wythnosau a'r misoedd ymlaen, ni thaniai ei ddychymyg wrth iddo ddarllen yr anerchiadau. Yr oedd yr arweinwyr mor ddiffuant ac mor benderfynol ag erioed, ond anodd oedd iddynt droi'r un geiriau yn fflam huodledd o Sadwrn i Sadwrn. Gwnaent ymdrech deg, yr oedd yn amlwg, a chaent amrywiaeth yn y cyfarfodydd drwy wahodd gwŷr fel Keir Hardie a Mabon ac aelodau blaenllaw o Undebau Llafur Lloegr iddynt,