Tudalen:Chwalfa.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Unwaith eto edrychodd Gwyn fel un wedi'i sarhau.

"Na faswn," meddai'n swta. "Yr ydw i'n mynd i'r gwaith copar. Ond os lici di droi'n ôl..."

Chwarddodd Llew gwyddai mor benderfynol y gallai'i frawd fod. Pan ddaeth y ffermwr heibio yn ei gert, taflodd olwg chwilfrydig ar y ddau hogyn, gan synnu eu gweld mewn lle mor unig ac anghysbell. Ond nodiodd y ddau'n hynod ddifraw arno, fel petaent yn hollol gartrefol yno ar fin y ffordd. Nodiodd yntau.

"Fasach chi'n licio cael pas, hogia'?"

"Dim, diolch."

"Dim, diolch."

Gwyliodd y ddau y gert yn pellhau, ac yna cododd Llew.

"Mi gawn ni ddiod yn y ffrwd 'na, Gwyn," meddai, "ac wedyn mi gychwynnwn. Hynny ydi, os wyt ti'n benderfynol o ddŵad. 'Dydi hi ddim yn rhy hwyr iti redag ar ôl y gert 'na, cofia."

Ateb Gwyn oedd brysio at y nant a'i daflu'i hun ar ei wyneb i yfed yn swnllyd ohoni.

"Dew, dŵr da, yntê, Llew?" meddai wrth godi'i ben cyn yfed eilwaith.

"Ia, ond paid ti ag yfad gormod ohono fo, 'rŵan. Mae o'n oer, cofia, a'th du-fewn di wedi poethi. Tyd, mi awn ni."

Ymaith â hwy i'r dde ar hyd y llwybr caregog. Sylwodd Llew fod ei frawd yn dechrau cloffi.

"Be' sy ar dy droed di, Gwyn?

"Dim byd." A cheisiodd gerdded yn rhwydd a thalog, gan sgwario'i ysgwyddau. Ond ni allai guddio'r cloffni.

"Oes. Gad imi weld y droed dde 'na."

"O, o'r gora'."

Eisteddodd ar ddarn o graig a thynnu'i esgid. Yr oedd twll crwn drwy'r gwadn a thrwy'r hosan, a chwysigen fawr ar ei droed. Cymerodd Llew ddraenen oddi ar lwyn eithin gerllaw ac yna cydiodd yn nhroed ei frawd.

"Be' wyt ti am wneud, Llew?"

"Torri'r swigan 'na, debyg iawn. 'Wna' i mo dy frifo di."

Gwthiodd y ddraenen i'r chwysigen a gwasgodd y dŵr ohoni. "Dyna ti," meddai. "A 'rwan rhaid inni roi rhwbath i mewn yn yr esgid 'na. Be' gawn ni, dywad?"