Bu ef a Dic yn tyllu'r graig am deirawr, ac yna taniwyd y tyllau gan y " shotsman." Wedi iddynt lenwi'r ddram a safai gerllaw â'r ysbwrial, daeth yr haliar i'w dwyn hi ymaith ac i roi iddynt un wag yn ei lle."
'Dydi hi ddim yn bwrw i fyny 'na, Jim, 'ydi hi? " gofynnodd Idris iddo.
Bwrw! Yn 'i harllwys hi, bachan!"
"Sut y gwyddost ti?
"Shwd y gwn i!" Chwarddodd yr haliar, heb sylwi ar y pryder yn llais Idris.
Ia, sut y gwyddost ti?" Cydiodd y chwarelwr yn ffyrnig yn ei fraich.
Hei, gan bwyll, Idris, bachan! Beth sy'n bod, w?"
"Sut y gwyddost ti 'i bod hi'n bwrw? Dwed wrtha' i, Jim, dwed wrtha' i."
Shwd y gwn i!" Daliodd yr haliar ei lamp uwch y ddram wag disgleiriai'r gwlybni dan y llewych.
"Ers faint mae hi'n bwrw?"
"Ers dwyawr, siŵr o fod. 'Nawr gad weld 'nawr. Pan on i'n mynd â'r ddram gynta' i Dai Cardi . . . "
Ond gafaelodd Idris yn ei lamp a chychwyn ymaith drwy'r heding. 'Rydw' i am ofyn caniatâd y fireman i fynd adra', Dic," galwodd o'r tywyllwch.
Pan gyrhaeddodd Pleasant Row, gwelai i'r dŵr godi tros yr ardd eto, a llifai yn awr i mewn i'r tŷ. Yr oedd y plant yn y llofft a Kate wrthi'n brysur yn ceisio achub matiau a dodrefn y gegin a'r parlwr rhag difrod.
"Rwan, Kate, i'r llofft 'na â chdi. Mi ofala' i am betha' i lawr yma."
"Ond mae'n rhaid iti gael bathio a newid a bwyta gynta', Idris. Mae gin' i ddigon o ddŵr poeth, ond yn lle y medri di osod y twbyn, dyn a ŵyr."
"Mi wna' i'n iawn os ei di i'r llofft at y plant. 'Ydyn' nhw wedi dychryn?"
"Dychryn! Maen' nhw wrth 'u bodd. Yr hwyl fwya' gafodd Ann a Gruff erioed!"
"Gorau'n y byd. Ond dos di i'r llofft, a thyn y 'sgidia' a'r 'sana' 'na ar y grisia'."
Ond . . . "
"Paid â bod yn styfnig, 'r hen gariad. Cael annwyd wnei
CHWALFA
143 di os arhosi di i lawr yma. Neu rwbath gwaeth efalla'. Dos, Kate bach, dos, 'rŵan."