Tudalen:Chwalfa.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth Idris ati wedyn i ysgubo'r dŵr allan ac i wthio sachau a matiau yn erbyn y drysau. Yna ymolchodd orau y gallai, ac wedi newid, sychodd goed tân a glo ar y pentan cyn eu cludo i'r llofft. Tra goleuai Kate y tân, âi yntau i lawr i nôl tegell a thebot a llestri a bwyd. Ceisiai gofio am bopeth ar y siwrneiau hyn, ond bu raid iddo fynd i lawr yn amlach nag y bwriadai. Cyn hir berwai'r tegell ar grât y llofft, ac eisteddodd y teulu i fwyta'u cinio, y tad a'r fam wrth fwrdd bychan, Ann a Gruff ar y llawr.

"'Rargian, hwyl, yntê!" meddai Gruff, gan gerdded i'r ffenestr â brechdan fawr yn ei law.

"Wel, ia, fachgan," chwarddodd Idris. "Dy dad yn cael dŵad adra'n gynnar o'r pwll a chditha'n cael 'sgoi'r ysgol, yntê, 'r hen ddyn? Mi gawn ni chwara' hefo'r injan hyd y llawr 'ma ar ôl bwyta, on' cawn?"

"Mae hi yn y gegin. 'Ga' i fynd i'w nôl hi, Tada?"

Na, mi a' i, 'ngwas i."

"O gadwch i mi fynd, imi gael cerddad drwy'r dŵr."

Yr oedd y llif dros ris cyntaf y grisiau erbyn y prynhawn a thros yr ail ris erbyn amser swper. Ychydig a gysgodd Kate ac Idris y noson honno, ond gwrando'n ofnus ar y glaw didostur a dyfalu pa mor uchel oedd y dŵr ar y llawr islaw. Pan syrthiodd Kate i gysgu o'r diwedd, breuddwydiodd ei bod hi a'i baban yn ymdrabaeddu mewn llaid drewllyd ac yn suddo'n is ac yn is iddo bob ennyd, yn sŵn chwerthin gwatwarus Molly O'Driscoll a holl wragedd a phlant y stryd. Deffroes o'r hunllef yn chwys i gyd, a gwelai fod golau cyntaf y wawr yn y ffenestr. Cododd a thynnu'r llenni.

"Idris! Mae'r glaw wedi peidio!"

"Diolch i'r nefoedd am hynny. Mi a'i i lawr i weld pa mor uchal y mae'r dŵr."

Gwisgodd yn frysiog ac aeth i ben y grisiau. Codai'r aroglau fel mwg bron o'r dŵr islaw: yr oedd mor gryf nes bod llygaid Idris yn chwilio'n reddfol amdano, gan dybio y gallent ei weld. Er i'r glaw beidio, ni chiliasai'r llif, a chyrhaeddai yn awr i ganol y trydydd gris. Aeth Idris drwyddo i gludo glo a choed tân i'r llofft ac i lawr wedyn i lenwi'r tegell ac ymofyn bwyd. Ai drwy'r dŵr yn droednoeth wedi torchi'i lodrau, a phob tro y dychwelai i bedwerydd gris y grisiau,