Tudalen:Chwalfa.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Na, efalla', wir. Ond sgwennwch chi at Idris. Os ydi o isio fy help i, mi ddown ni o hyd i'r arian rywsut neu'i gilydd. Sgwennwch yn syth ar ôl cinio, Edward . . . Dyma fo Gwyn yn dwad adra' o'r ysgol. Mae o'n llwyd iawn 'i wynab heddiw eto."

'O, wedi ceri tipyn. Mae hi dipyn yn oerach bora 'ma." Gobeithio na fydd y gaeaf 'ma yn un calad, yntê? 'Wn i ddim be' wnawn ni am dân, na wn i, wir."

Ysgrifennodd Edward Ifans at Idris y prynhawn hwnnw, a daeth ateb gyda'r troad. Byddai, fe fyddai'n falch pe deuai ei fam i lawr am dipyn, gan fod Kate yn ei gwely a chan ei fod yntau'n gorfod colli'i waith ers dyddiau: amgaeai deirpunt yn y llythyr. Ac wedi trefnu i Fegan ddod i "Gwynfa bob bore tra byddai hi i ffwrdd, daliodd Martha Ifans y trên i'r Sowth un bore Sadwrn yn nechrau Tachwedd.

Dychrynodd pan welodd-a phan glywodd sŵn—Pleasant Row. Serth a phur dlodaidd oedd Tan-y-bryn hefyd, ond yr oedd y rhan fwyaf o'i thrigolion yn bobl dawel a pharchus, yn gapelwyr selog a rhai, fel Edward Ifans, yn flaenoriaid. Pur anaml—cyn dyddiau'r streic, beth bynnag-y clywid un cynnwrf yn y stryd, hyd yn oed ar nos Sadwrn pan fyddai Bertie Lloyd neu Twm Parri "wedi'i dal hi." Ond yma codai lleisiau cecrus Sul, gŵyl a gwaith ac ni ddewisiai ambell un fel Molly O'Driscoll ei geiriau'n rhy ofalus. Pan gyrhaeddodd Martha Ifans, tuag amser te ar ddydd Sadwrn, âi cystadleuaeth edliw ymlaen rhwng Molly yng ngwaelod y stryd a chymdoges hanner y ffordd i fyny. Safai Molly ar ben ei drws yn atgoffa'r llall, gwraig fechan a freintiwyd â dychymyg ac ag ysgrech o lais, am droeon anffodus yng ngyrfa'i thad a'i thaid, ac atebai hithau drwy sôn wrthi—ac wrth y gymdogaeth oll—am y gwyliau achlysurol a dreuliai rhieni Molly yn y jêl. Yr oedd deunydd da gan y ddwy, ond buan yr aeth arddull raeadrwyllt y llall yn drech na Molly, a bu raid iddi alw am gymorth ei bachgen hynaf, lleisiwr croch i'w ryfeddu. Ond llais yn unig a oedd ganddo ef, a manteisiai'r dafodwraig arall ar yr ysbeidiau pan arhosai'r bachgen am eiriau dethol oddi ar fin ei fam. Fel y troai Martha Ifans ac Idris, a aethai i Gaerdydd i'w chyfarfod, o'r llwybr wrth yr afon i'r stryd, tafodai Molly ei mab athrylithgar am ei arafwch un ennyd a hyrddiai enllibion at ei chymdoges ddawnus yr