ennyd nesaf. Ni chlywsai'r wraig o Dan-y-bryn y fath huodledd erioed.
Gwaeddai'r stryd a'r tŷ wrthi na ddylasai Idris ddwyn ei wraig a'i blant i'r fath le. Ond ni ddywedodd hi ddim. Yn lle hynny aeth ati â'i holl egni i lunio cysur o'r anghysur. Yr oedd y tŷ yn weddol lân erbyn hyn-gofalodd Myfanwy Jenkins a Siân am hynny-ond nid i lygaid manwl Martha. Ifans. Gartref, ni wnâi hi fawr ddim gwaith ar y Sul, dim ond yr hyn a oedd raid, ond ar ei Sabath cyntaf ym Mhentref Gwaith, cyfieithodd dduwioldeb i ddiwydrwydd tra oedd Idris ac Ann a Gruff yn y capel. Pan âi i fyny i'r llofft i ddwyn rhywbeth i'w merch yng nghyfraith neu i'r baban, Ifan, ymresymai Kate yn daer â hi, ac addawai hithau'n wylaidd na wnâi hi ddim ond "twtio tipyn i lawr 'na." A gwyddai Kate wrth wrando eto ar sŵn y dodrefn yn cael eu symud mai ofer fyddai pob dadl-heb ddau neu dri o blismyn i'w gosod mewn grym.
I fyny yn y llofft, a thwymyn y bronceitus yn chwys ar ei hwyneb, a'i beswch byr, caled, yn boen yn ei bron ac yn ei gwddf, breuddwydiai Kate am gysur a thawelwch y Twyn. Buan yr aent yno, ac fe wnâi hi'r tŷ newydd y glanaf a'r hapusaf yn yr holl stryd. Gobeithio nad oedd y lleithder a'r aflendid yn Pleasant Row wedi amharu dim ar ei hiechyd. Nid oedd arni ofn tlodi—gallai ymladd yn erbyn hwnnw, fel y gwnâi ei mam yng nghyfraith ac eraill yn Llechfaen, brwydro ac aberthu â gwên dawel, ond yr oedd afiechyd, dihoeni fel Ceridwen, merch John Ifans tros y ffordd i "Gwynfa," yn ddychryn i'w henaid. Yr oedd y frwydr honno mor araf, mor ddidosturi, mor annheg, rhyw fud dân yn deifio llawenydd pawb o'i gwmpas, rhyw ormes cudd, anhyblyg, anghymodlawn. Ond na, fe gryfhâi eto'n fuan, a byddai hi ac Idris a'r plant yn hapus iawn ym Mhentref Gwaith. Ac â dagrau'n ymylwe am ei breuddwydion, syrthiodd Kate i gysgu.
Deffrowyd hi gan sŵn Ann a Gruff, a oedd newydd ddychwelyd o'r capel. Daethant i fyny i'r llofft i'w gweld a dilynwyd hwy ymhen ennyd gan Martha Ifans ac Idris, yn dwyn ei chinio iddi. Ond cyn iddi ddechrau bwyta, taflodd ei mam yng nghyfraith liain dros ei phen a bu raid iddi wyro uwch y bwrdd bychan wrth ochr y gwely i anadlu'r ager a godai o'r jwg o ddŵr berwedig a drawsai Martha Ifans arno. Anadla di'r stêm 'na 'rŵan, Kate bach," meddai. "'Does