Tudalen:Chwalfa.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dim byd tebyg iddo fo am glirio fflem. Mi driwn ni hynny bob rhyw deirawr heddiw, ac mi fyddi di'n well o lawar erbyn 'fory, 'gei di weld . . . Tyd yn dy flaen."

"Ga' i drio wedyn, Nain?" gofynnodd Gruff. "Mi fedra' i ddal fy ngwynab o dan ddŵr am funud cyfa'.

"A 'rwan, tria'r cwstard 'ma," meddai Martha Ifans pan oedd yr anadlu anghysurus drosodd. "Mi rois i dri wy ynddo fo. Yr wya' ffres hynny ddaeth Mrs. Jenkins yma neithiwr. Rhai digon o ryfeddod oeddan' nhw hefyd."

Cyflym, o dan ofal ei mam yng nghyfraith, y gwellhaodd Kate, a chyn pen pythefnos âi'r ddwy am dro i fyny i'r Twyn i weld y tŷ newydd, a oedd yn barod o'r diwedd. Yno cawsant bwyllgor dwys ynghylch llenni i'r ffenestri, matiau i'r lloriau, llathau i'r grisiau, silffoedd a bachau a phethau tebyg, a phennwyd dydd y symud.

"Mi arhosa' i gartra' ddydd Merchar 'ta', " meddai Idris, pan glywodd benderfyniad y pwyllgor.

"'Fydd dim isio iti o gwbwl, Idris," ebe Kate. "Mi ddaw Bob Tom a William Jenkins, sy ar y shifft nos, yma mewn munud i lwytho'r gert, dim ond iti sôn wrthyn' nhw. Gormod, nid rhy 'chydig, o help gawn ni, 'gei di weld."

Gwir y gair. Pan ddaeth dydd yr ymfudo, yr oedd amryw o ddynion o'r capel ac o'r stryd yn gwthio'i gilydd o'r neilltu er mwyn cael llaw ar wely neu fwrdd neu gadair, a buan y llanwyd cert Joe Brown, a werthai dywod a finegr hyd yr ardal fel rheol, ond a gynigiai'i wasanaeth yn rhesymol dros ben ar gyfer gorchwylion fel hyn. Awgrymodd un Shoni, dyn bychan, bywiog, ysmala, a gyrhaeddodd pan oedd yr ail lwyth bron yn llawn, y dylent gario'i gilydd i fyny ac i lawr y grisiau er mwyn iddo ef ac un neu ddau arall gael teimlo iddynt wneud rhywbeth.

Rhuthrodd Ann a Gruff adref i ginio i ddarganfod bod popeth o faint wedi gadael y tŷ yn Pleasant Row tra oeddynt hwy yn yr ysgol. Ond cawsant y fraint o gludo rhai o'r manion a oedd ar ôl, a mawr oedd eu balchder hwy ac eiddigedd rhai o'r plant a'u gwyliai. Ar ei ffordd yn ôl o'r Twyn, dechreuodd Gruff dderbyn llwgrwobrwyon—"loshin," marblys, hen gyllell, olwyn wats--am yr anrhydedd o gynorthwyo, a chyn hir gwibiai Martha Ifans o ystafell i ystafell i gymryd gwydr lamp neu addurn bregus o ddwylo rhyw hogyn diofal. A chan fod rhai o epil Molly O'Driscoll ymhlith yr atgyfnerth-