Tudalen:Chwalfa.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna, un diwrnod yn niwedd Hydref, wrth weld bechgyn a darnau hir o raff fel cynffonnau ganddynt, daeth golau cyfrwys i lygaid Harri Rags. Galwai wedyn bob dydd yn siop Now Bwtsiar, ac ni châi ei fam nac Em fynd yn agos i'r cwt lle cadwai ei goits fach a'i ysbwrial.

Rai dyddiau cyn i Fartha Ifans ddychwelyd o'r De, gwthiodd Harri ei goits yn araf i lawr Tan-y-bryn un gyda'r nos, gan wenu a nodio'n orfoleddus ar bawb. O'i hamgylch, pob un wrth ddarn o weiren, hongiai rhesi o gynffonnau—rhai moch, rhai defaid, rhai llygod, rhai gwneud, o bob lliw a maint-a chrynent a dawnsient oll mewn miri fel yr ysgydwai Harri'r goits. Croesodd i ddechrau at dŷ Bertie Lloyd, a gyrrodd fachgen i'r drws i ofyn a oedd gan y Bradwr hen ddillad neu hen haearn. Pan welodd Bertie Lloyd ddawns y cynffonnau, caeodd y drws yn glep, a rhoes y dorf o blant, a gynyddai bob ennyd, "Hwre!" fawr i'r mudan. Ymunodd Gwyn â'r dyrfa yn fuan wedyn, a phan ddaethant i waelod y stryd, ef a gurodd wrth ddrws Twm Parri. Daeth Wil, hogyn hynaf Twm, i'w agor, ac wedi rhythu'n filain ar y goits a gwrando ar ddeugain o leisiau'n gweiddi " Bradwr!", ceisiodd gydio yn Gwyn i'w "fwyta'n fyw," chwedl yntau. Ond medrodd Gwyn ei osgoi, ac aeth yr orymdaith gynffonnaidd heibio i lawer o dai eto cyn i ddau blisman cyhyrog droi Harri a'i goits a'i fyddin enfawr o ddilynwyr tuag adref.

Amser cinio drannoeth, pan ruthrai Gwyn drwy'r lôn gul a redai o gefn yr ysgol i Dan-y-bryn, pwy a ddisgwyliai amdano yng ngheg y lôn ond Wil, hogyn Twm Parri. Ni fynychai ef yr ysgol honno yn awr: gadawsai ei dad gapel yr Annibynwyr am yr Eglwys a thynasai ei ddau fachgen o Ysgol 'R Allt Fawr, fel y gelwid hi, i Ysgol yr Eglwys, er bod honno ym mhen arall y pentref.

Safodd Gwyn mewn braw: yr oedd Wil yn gawr hogyn cryf, cyhyrog, creulon, un a gâi fwyd da, gan fod ei dad yn gweithio. Penderfynodd droi'n ei ôl tua'r ysgol, ond daeth twr sydyn o blant i'w atal. Neidiodd Wil ymlaen a gafaelodd ynddo a'i lusgo i'r stryd.

""Rydw' i wedi dengid o'r ysgol yn gynnar i gal dy weld di, 'ngwas i," meddai, a'i law yn giaidd ar arddwrn Gwyn. Yna trawodd ef yn greulon droeon ar ei wyneb a'i ben â'i law arall.