PENNOD III
YR oedd Harri Rags yn fud a byddar, ac oherwydd hynny edrychai'r ardal arno fel un nad oedd yn llawn llathen. Collasai ei glyw pan oedd yn hogyn bach, ond arhosai geiriau a brawddegau ar ei dafod o'i flynyddoedd cynnar, a chwanegai atynt drwy ddarllen gwefusau, yn arbennig rhai ei fam ac Em ei frawd. "Checha " oedd "Llechfaen " a "Heb" oedd "Em," a châi plant, mewn diniweidrwydd creulon, hwyl fawr yn siarad â'i gilydd yn null Harri.
Tua deugain oed oedd Harri, ac Em rai blynyddoedd yn ieuangach. Trigent gyda'u mam weddw yn y tŷ uchaf ond un yn Nhan-y-bryn, y drws nesaf i'r hen Ishmael Jones. Chwarelwr oedd Em, ond enillai Harri ei damaid drwy gasglu carpiau a hen haearn a'u gwerthu ar ddiwedd pob pythefnos i ddyn a ddeuai i fyny o'r dref i'w nôl. Yn ôl pob hanes, yr oedd y meistr yn gyfoethog, ond tlawd iawn oedd ei was. Tlawd yn wir oedd y teulu bach erbyn hyn, ag Em ar streic a'i fam, golchwraig fwyaf diwyd y pentref, yn gwrthod golchi i un Bradwr.
Effeithiodd y streic yn drwm ar fasnach Harri Rags. Rhôi pobl bris yn awr ar bethau a daflent ymaith gynt, a phan ddeuai diwedd pythefnos, bychan oedd y pentwr a gynigiai'r gwas i'r meistr. Yn nechrau'r flwyddyn, penderfynodd y gŵr o'r dref gasglu'r ysbail bob mis, ac yna, yn niwedd yr haf, bob deufis, gan chwifio'i ddwylo'n ysgornllyd i egluro i Harri nad oedd yn werth y drafferth iddo ddod i fyny i Lechfaen o gwbl bellach.
Nid âi Harri, mwy na'i fam, ar gyfyl tŷ unrhyw Fradwr. Casâi Marged Williams ac Em hwy â chas perffaith, a bu hi o flaen yr Ynadon unwaith am hwtio drwy gragen a dilyn Bradwr o'r enw Bertie Lloyd, a drigai tros y ffordd, bob cam i lawr Tan-y-bryn un bore. Ni chyfleai'r gair " Bradwr " ddim i feddwl di-eiriau Harri, ond llwyddodd Em i egluro "cynffonna" a "cynffonwyr " yn glir iawn i'w frawd. Ac wrth sôn am y Bradwyr, rhoi ei law tu ôl iddo a'i thynnu hyd gynffon ddychmygol a wnâi Harri, a buan yr aeth yr ystum yn un gyffredin ymhlith plant Llechfaen.