Tudalen:Chwalfa.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn mynychu Ysgol yr Eglwys, a'r llall o frid y streicwyr ac yn Ysgol 'R Allt Fawr. Hynny a wnâi Roli Llefrith yn drefnydd mor frwdfrydig.

"Perffect ffêr ple now!" gwaeddodd Roli, gan droi i Saesneg i ennill mwy o awdurdod. Yna'n dawelach: "Gwna lobscows o'r diawl, Os."

"Ond 'does arna' i ddim isio cwffio hefo'r hen Os," meddai Wil, a'i gôt amdano o hyd.

Nac oes, dim ond hefo hogia' bach llawar llai na chdi," ebe Roli, gan ei hyrddio at ei wrthwynebwr.

Camodd Os ymlaen i'w gyfarfod. Caeodd Wil ei lygaid ac, mewn amddiffyniad diobaith yn hytrach nag i ymosod, chwifiodd ei freichiau a'i ddyrnau fel ffustiau gwylltion. Yn orffyddiog, gan feddwl llorio'i elyn ag un ergyd, bu Os yn ddigon diofal i roi ei ben yn llwybr un o'r ffustiau hyn. Landiodd dwrn Wil ar ochr ei dalcen, a dawnsiodd holl sêr y nefoedd a mwy o flaen llygaid Os. "O!" meddai pawb mewn siom syfrdan wrth weld eu harwr yn honcian yn feddw at fin y cylch ac yna'n syrthio fel sach â'i llond o wair. A'r mwyaf syfrdan o bawb oedd Wil.

Gorweddai Os yn llonydd, gan gau ac agor ei lygaid mewn dryswch anhraethadwy. A oedd y peth yn ffaith, neu ai breuddwydio yr oedd? Ai gwir iddo ef Os, cwffiwr gorau Ysgol 'R Allt Fawr, gael ei lorio gan Wil Cwcw? Y nefoedd, Wil Cwcw o bawb! Clywodd lais Roli uwch ei ben:

"Perffect ffêr ple 'rŵan, hogia' . . . WA-A-N! . . . 'Rasgwrn Dafydd, 'wt ti ddim am adal i hwn'na roi cweir iti, Os? . . . TW-W! . . . Tria godi, was . . .TH-R-I-I! . . . Y Bradwrs yn ennill, myn diain i! . . . FFO-O-R! . . . 'Ron i'n meddwl bod Os 'na'n dipyn o gwffiwr Robin! . . . FFA-A-IF! . . . Slaes iawn gafodd o hefyd, yntê, hogia'? . . . SI-I-CS! .. 'Roedd un slaes yn ddigon iddo fo, ond oedd? . . . SEFAN! Ysgol 'r Eglwys yn curo Allt Fawr, myn cythrwm! . . . Ê-ÊT! .. . Dyna chdi, tria godi, Os . . . NA-A-IN! . . .

Hwrê!"

Ymunodd y rhan fwyaf o'r plant ym mloedd y canolwr diduedd, ac yna bu tawelwch mawr, disgwylgar. Yr oedd Os ar ei draed. Ysgydwodd ei ben droeon, fel ymdrochwr newydd ddyfod i'r wyneb, ac yna gwthiodd ei ên a'i wefus isaf allan yn ffyrnig.