Gwyn. Yr oedd yn amlwg fod Os mor ddeheuig â'i law ag ydoedd â'i ddyrnau, a thynasai yn y llyfryn bob math o luniau o Roli Llefrith ac ef ei hun a Wil Cwcw ac eraill, pob un yn anheddychol i'r eithaf. Ac uwchben pob llun, er mai prin yr oedd eu hangen, eglurai penawdau mawrion beth a fwriadai'r tynnwr ei gyfleu. "Y BABI YN NGHOITSH H. RACS" a oedd uwchben y cyntaf, a gwelid yn y darlun wyneb babïaidd Wil, yn wylofain i gyd, yng nghoits fach Harri Rags, a Roli Llefrith, a'i dafod allan, yn gwthio'r goits. Nid syniad artistig yn unig oedd hwn, ond tyfodd yn ffaith un gyda'r nos yn Nhan-y-Bryn, a bu'n boblogaidd iawn am hanner awr nes i Jane Parri, na fedrai werthfawrogi celfyddyd, benderfynu na châi ei hogyn hi gymryd rhan yn y fath ffolineb.
Cafodd y tad a'r fam yr hawl i alw yn yr Ysbyty eto yn yr hwyr, a daeth Meri Ann gyda hwy. Dynes fawr, dawel, oedd hi, hollol wahanol i Gatrin Williams ei chwaer. Tu ôl i'r tawelwch a'r ochneidio aml yr oedd tristwch mawr. Collasai ei hunig fab, meddyg disglair, yn y rhyfel yn Neheudir Affrig, a phrin y gallai'i meddwl syfrdan gredu bod y peth yn wir. Yr oedd ei gŵr mewn swydd bwysig yn nociau'r ddinas, a'i merch yn athrawes, ond wedi colli Emrys, troesai cysur a chyfoeth ei chartref yn llwch yn ei dwylo. Gallai fforddio morwyn neu ddwy, ond yr oedd yn well ganddi fod hebddynt, er mwyn gwneud rhywbeth drwy'r dydd, a chadwai ieir yng nghefn ei gardd am yr un rheswm-er gwaethaf barn ei chymdogion. "Y ffeindia'n fyw " oedd disgrifiad ei chwaer ohoni, a buan y dysgodd Edward a Martha Ifans mor gywir oedd y geiriau. Mwynhâi Meri Ann roi fel y mwynhâi eraill dderbyn yr oedd yn rhywbeth llon a chyffrous iddi, yn brofiad i ymhyfrydu ynddo. Gwelsai Gwyn hi bob dydd ers wythnos, a daethent yn gyfeillion mawr. A thystiai'r cwpwrdd wrth ochr ei wely nad yn waglaw y galwasai Meri Ann.
Yr oedd Martha Ifans yn dawel iawn ar y ffordd o'r Ysbyty. "Wel, wir, mae o i'w weld yn reit siriol, ond ydi?" meddai'i gŵr.
"Ydi, y peth bach," ebe Meri Ann ag ochenaid. Ond ni ddywedodd ei wraig ddim.
'Llefydd da ydi'r hospitals 'ma, wchi," meddai Edward Ifans, gan sylwi'n bryderus ar ei mudandod. "Mae pobol yn edrach arnyn' nhw mewn dychryn ac yn meddwl bod popeth ar ben pan mae'r Doctor yn sôn am 'u gyrru nhw i hospital.