Tudalen:Chwalfa.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwylia'. Y Snowdon Eagle. Ac mae hi'n ddadl fawr acw bob tro y daw o adra'—rhwng stêm a hwylia', wchi." Yr oedd dagrau yn llygaid Martha Ifans.

"Ond ydi'r hen fyd 'ma'n fychan?" meddai. "Mae'n hogyn ni ar hon'na." A chododd hi a'i gŵr i syllu'n fanwl ar y llun.

"Ar y Snowdon Eagle? Wel, wir! Ond mi ellwch fod yn dawal eich meddwl ar un peth. Mi geiff bob chwara' teg hefo William fy mrawd, er mai fi sy'n deud hynny . . . Yr ydw' i'n cofio 'rwan iddo fo gymryd hogyn newydd cyn iddo fo adael Aber Heli 'ma. Wel, wir, a'ch hogyn chi oedd o!"

Treuliodd y tad a'r fam awr hapus gyda'u bachgen y prynhawn hwnnw, a chludwyd ganddynt y tryblith rhyfeddaf o ddanteithion i'r cwpwrdd wrth ei wely. "Y jam mwyar duon 'ma oddi wrth Catrin Williams," meddai Martha Ifans wrth eu rhoi'n ofalus yn y cwpwrdd. "Y 'fala' o ardd yr hen Ishmael Jones. 'Fala' byta digon o ryfeddod . . . Y deisan gyraints 'ma o siop Preis. John Preis 'i hun sy'n 'i gyrru hi iti a deud wrthat ti am frysio mendio iti gael chwanag pan ddoi di adra' . . . D'ewyrth John a Cheridwen sy'n rhoi'r grêps 'ma. Ceridwen oedd wedi'u cael nhw gan rywun am 'i bod hi'n sâl, ac mi fynnodd imi fynd â mwy na'u hannar nhw i ti . . . O, ia, mae gin' i ddeuswllt iti oddi wrth Dan hefyd. 'Roedd o wedi meddwl dŵad i Aber Heli bora 'ma i'n gweld ni'n cychwyn, ond mae dydd Iau yn ddiwrnod prysur ofnadwy iddo fo. Mi fydd o yno heno, mae'n debyg, yn aros am y llong. Yr wya' 'ma-Diar, yr ydw' i wedi bod ofn i'r rhei'na gracio ar hyd y daith—oddi wrth Roli Llefrith, Tyddyn Isa' . . . Y ddau lyfr 'ma oddi wrth Mr. Edwards y Gwnidog. A'r pedwar oraens 'ma . . . Diar, ond ydi pobol yn ffeind wrthat ti, dywad? . . . Meurig sy'n gyrru'r da-da 'ma. Y rhai wyt ti'n licio, medda' fo, caramels â chnau yn 'u canol 'nhw, o siop Leusa Jones—Leusa Licsmôl, chwedl chitha' . . . A mae Megan wedi casglu pob math o betha' i'r bocs 'ma, 'wn i ddim be' i gyd . . . A neithiwr mi alwodd rhyw hogyn o'r enw Os acw hefo hwn—rhyw lyfr a lot o lunia' ynddo fo. Fo'i hun ddaru 'u tynnu nhw, medda' fo, ac 'roedd o isio imi ddeud wrthat ti na chanith y Gwcw ddim am hir eto. Dim ond imi ddeud fel'na a mi fasat ti'n dallt medda' fo."

Llyfr bychan a'i glawr yn goch ydoedd, hen lyfr siop i'w fam, efallai, ond hwnnw oedd yr anrheg werthfawrocaf i