Tudalen:Chwalfa.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pnawn 'ma, ac mi fydd Meri Ann yn edrach amdano fo 'fory nesa', 'gewch chi weld. Ac mae hi'n cadw hannar dwsin o ieir yng nghefn y tŷ ac yn cael wya' reit dda, medda' hi. Ac mi sgwennodd hefyd at Christmas 'i gefndar i Firkenhead. Mae 'i hogan o, Nellie, yn gweithio mewn offis yn Lerpwl, ac 'rydw' i'n siŵr y medar hi alw yn y Rospitol i fynd â ffrwytha' ne' rwbath i'r hogyn bach. Pryd ydach chi'n meddwl y medrwch chi fynd yno eto, Edward Ifans? 'Roedd Robat 'cw yn gobeithio . . .

Ron i'n meddwl mynd ddydd Iau nesa',' meddai Edward Ifans, gan dorri ar y llifeiriant o eiriau.

Dydd Iau? Wel, rhaid i chi aros y nos hefo Meri Ann, chi a Martha os medrwch chi fforddio mynd eich dau. Mae gynni hi dŷ braf a digon o le ac mi fasa' wrth 'i bodd yn rhoi croeso i chi. Ond dyna fo, yr ydach chi'n gwbod am Meri Ann, ond ydach? Y ffeindia'n fyw, a 'd oes dim yn ormod ganddi 'i wneud i rywun yn y Rospitol, yn enwedig os bydd o o Lechfaen 'ma. Diar annwl, yr ydw i'n cofio pan aeth William Williams, Ty'n Cerrig, i gael 'i goes i ffwrdd. Gwyn bach druan, yn yr hen Rospital fawr 'na, yntê? Ond dyna fo, mae Doctor Robaits yn gwbod, ond ydi? Y Doctor bach gora' yn yr holl wlad, dyna ydw' i'n ddeud, a thasa' fo'n fy ngordro i ne' Robat 'cw i fynd ar ein penna' i'r afon 'na bob bora, am wn i na fasan ni'n mynd . . .

Derbyniodd Edward Ifans lythyr oddi wrth y Capten John Huws fore Llun yn ei wahodd ef a'i wraig i deithio yn ei long i Lerpwl fore Iau. A allai ef a Mrs. Ifans ddal y trên wyth o Lechfaen? Hynny yw, oni fyddai'r dydd yn ystormus iawn. Nid oedd y dydd yn ystormus, ac fel y nesâi'r trên i Aber Heli, yr oedd heulwen denau Tachwedd yn llewych ansicr ar lwydni'r môr.

'Rydw' i'n falch o gael eich cwmni chi," meddai'r Capten Huws wedi iddo'u harwain i'w gabin. "Gyda llaw, mi gawson ni lythyr eto ddoe oddi wrth Dilys, y ferch 'cw. Yr hogyn bach yn dwad ymlaen yn iawn, medda' hi. Mae o'n rêl ffefryn yn y ward ac wedi cael amryw o ymwelwyr yn barod."

"O, diolch am hynny. Fy ngwas bach i!" ebe Martha Ifans. Ond nid edrychai ar y siaradwr yr oedd ei llygaid wedi'u hoelio ar lun ar y wal.

"Llong fy mrawd William," eglurodd y Capten. Llong