Tudalen:Chwalfa.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y stemar. Fo ydi'r Ciaptan . . . Dyna chi, yr ydach chi'n gynnas a chyffyrddus 'rwan, ond ydach? meddai wrth Gwyn.

"Ydw', diolch, Nyrs."

"Wel, 'ngwas i," meddai Edward Ifans braidd yn floesg, wedi iddo daro dillad Gwyn yn ei fag.

Ni wnaeth Gwyn ddim ond gwenu'n ddewr, gan ymdrechu cadw'r dagrau o'i lygaid."

"Wn i ddim pryd y down ni i'th weld di, fachgan, a'r hen drên 'na mor ddrud. Ond y mae'n debyg y daw dy fam ganol yr wsnos."

Clywodd y nyrs fach y geiriau. "Pam na ddowch chi ddydd Iau, wsnos i hiddiw?" gofynnodd. "Hefo 'Nhad yn y stemar. Cario llechi i Lerpwl mae o, os ydach chi'n barod i deithio mewn llong felly."

"'Ydach chi . . . 'ydach chi'n meddwl y basa' fo'n caniatáu inni? . . . "

"'Rargian, basa', mewn munud. Mi fydda' i'n sgwennu adra' 'fory, a mi ddeuda' i wrtho fo am yrru gair atoch chi. I ddeud pryd bydd y teid yn gadael iddo fo gychwyn. Ond mi fydd raid i chi aros dwy noson os dowch chi felly. Mae'n cymryd dau ddiwrnod iddyn' nhw ddadlwytho. 'Oes gynnoch chi berthnasa' yn Lerpwl 'ma?"

"Neb, mae arna' i ofn. Ond mae 'na amryw o Lechfaen 'cw yn gweithio yma 'rŵan. Mi sgwenna' i at Now'r Wern heno pan a' i adra' . . . "

Ond ni fu raid iddo ysgrifennu at Now'r Wern. Prin yr oedd wedi gorffen ei swper yn "Gwynfa" y noson honno pan alwodd Catrin, gwraig Robert Williams."

"Wedi clywad am Gwyn bach," meddai wrth Megan, a aethai i ateb y drws. "Diar, hen dro, yntê? . . . O, hylô, Edward Ifans! Dwad i ddeud wrthach chi fod Meri Ann fy chwaer yn byw reit agos i'r Rospitol. 'Catrin,' medda' Robat 'cw pan glywson ni amsar cinio, dos i fyny at Edward ar unwaith i roi adrés Meri Ann iddo fo.' Ond yr oeddach chi wedi mynd ar y trên deuddag . . . Dyma fo'r adrés, ac os byddwch chi isio tamad o fwyd ne' aros y nos—wel, yr ydach chi'n gwbod am Meri Ann, ond ydach? Y ffeindia'n fyw. Mi fasa' wrth 'i bodd eich gweld chi, a 'fasa' dim yn ormod gynni hi'i wneud i chi. Mi sgwennodd Robat 'cw ati hi