Peidio ag egseitio, medda' fo. Ond mi ddown ni yr wsnos nesa' eto."
"Yn y stemar?"
"Ia, hefo Ciaptan Huws. A rhaid i titha' frysio mendio iti gael pas ynddi hi."
"Rhaid . . . 'Mam?"
"Ia, 'ngwas i?"
"Deudwch wrth Meurig . . . am ddeud wrth Os. . . . na ddeudis i ddim fod yn ddrwg gin' i. Mi fydd Os yn dallt."
Troes Edward a Martha Ifans wrth ddrws y ward i chwifio llaw ar eu bachgen. Cododd Gwyn yntau ei law, gan wenu'n ddewr, ond yn sydyn yr oedd y boen yn ei benelin ac yn ei ysgwydd yn ysgriwio'i wyneb. Ond dychwelodd y wên ar unwaith, yn loyw gan ddagrau. Edrychai'n fychan ac yn unig iawn yno ym mhen draw'r ward, ac yr oedd calon Martha Ifans fel plwm o'i mewn fel y cerddai ymaith. Teimlai'n ddig wrth ryw ferch o ymwelydd gerllaw am chwerthin yn uchel ar ei ffordd allan.
Daeth llythyr oddi wrth Meri Ann ddydd Llun ac un arall ddydd Mercher. Ceisiai swnio'n hyderus, ond darllenai'r tad a'r fam rhwng y llinellau a gwyddent nad oedd Gwyn yn gwella fel y gobeithiai'r meddyg y gwnâi. Dydd Iau, pan gyrhaeddodd y llong Lerpwl, yr oedd Meri Ann yn aros amdanynt ar y cei. Gwyddent heb iddi ddweud gair pam y daethai yno.
"Bora 'ma, tua deg," meddai. "Dowch, mae gin' i gerbyd yn aros wrth y giât acw. . . Dowch, Martha bach, dowch, 'nghariad i . . . Mae fy ngŵr i wedi gwneud y trefniada' i gyd y pen yma, Edward Ifans, ac 'rydw' i wedi gyrru telegram i Robat a Chatrin fy chwaer i drefnu petha' yn Llechfaen. Ar gyfar dydd Llun yr on i'n meddwl . . . Ewch chi'ch dau at y cerbyd 'rwan tra bydda' i'n cael gair hefo'r Capten Huws."
Oedd, yr oedd y trefniadau oll wedi'u gwneud, a mynnai gŵr Meri Ann gael talu'r treuliau i gyd. A phan ddaeth y Sadwrn, teithiodd Meri Ann gyda'r fam yn y trên i Lechfaen, a gofalodd ei gŵr fod yr arch yn cyrraedd llong y Capten Huws heb i'r tad orfod gwneud dim.
"Gwell i chi deithio yng nghabin y Mêt hiddiw," meddai'r Capten pan aeth Edward Ifans i mewn i'r llong.