PENNOD IV
AETH Dan i hebrwng ei ffrind Emrys at y trên un hwyr yng nghanol Ionawr. Dechreuai tymor arall yn y Coleg drannoeth.
"Daria, piti na fasat ti'n dwad hefo mi, Dan," meddai Emrys yn sydyn wedi iddynt gyrraedd y platfform. "Mi fasat yn fflio drwy'r Honours yn y Gymraeg ne'r Saesneg, yr ydw i'n siŵr o hynny. Pob parch i'm hewyrth ac i'r 'Gwyliwr,' ond . . .
"Yr ydw i'n hapus lle'r ydw' i, Emrys. Wrth fy modd yn y gwaith. Ac yn dysgu mwy mewn wsnos weithia' nag a wnawn i mewn tymor cyfa' yn y Coleg. Mae'r profiad yn un gwych, fachgan."
"Ydi, mi wn, ydi, ond . . . y Coleg ydi dy le di. Mae 'na fwy yn dy ben di ganwaith nag sy yn fy nghorun i. Go daria'r hen streic 'na!"
"Hyd yn yn oed petai'r arian gen' i, 'wn i ddim awn i'n ôl i'r Coleg."
"O? Pam?"
"Wel, yr ydw' i yng nghanol bywyd rywfodd ar 'Y Gwyliwr,' ac yn gwneud y peth ydw' i isio'i wneud—dysgu sgwen—'Roeddat ti a Gwen yn canmol fy marddoniaeth i y noson o'r blaen. 'Faswn i ddim wedi sgwennu'r cerddi yna 'tawn i wrthi'n crafu gwybodaeth i basio arholiad yn y Coleg . . . Ac wrth gwrs, 'rydw' i'n medru'u helpu nhw gartra'."
"Hwnnw ydi'r gwir reswm, yntê?"
"Naci. Naci."
"Mae dy logic di yn dangos hynny, Daniel, 'machgan i,' chwedl f'ewyrth."
"O?"
"Rhaid iti gofio fy mod i'n gwneud Phil. yn y Coleg. 'Roeddat ti'n dechra' hefo 'Hyd yn oed petai'r arian gen' i ac yn gorffen hefo' 'Rydw' i'n medru'u helpu nhw gartra'.' Illogical, Dan, illogical."
"Efalla'." Yr oedd y gwir yn brifo, a chyffrowyd Dan i huodledd. "Be' ddysgis i yn y Coleg y flwyddyn y bûm i yno? Y nesa' peth i ddim. 'Ron i fel iâr yn pigo yn 'i