Tudalen:Chwalfa.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hunfan. Cymer lenyddiaeth Gymraeg. Y darlithoedd yn Saesneg a finna', hogyn o Lechfaen, yn ofni ateb cwestiwn rhag ofn imi faglu tros eiria' yn yr iaith fain. A 'faint o dir aethon ni trosto fo? Mi gei fwy gan yr Ap mewn hannar awr nag a gest ti mewn blwyddyn yn y Coleg. A dyna ti lenyddiaeth Saesneg . . . "

Ond daeth y trên, a thawodd. "Cofia fi at yr hogia", meddai cyn troi ymaith braidd yn sydyn, yn enwedig at Meirion a W.O." Hwy oedd ei gyd-letywyr gynt.

Cerddodd tua'i lety yn nannedd gwynt oer ac yr oedd yn dda ganddo gyrraedd ei ystafell. Bychan oedd y tân yn y grât a cheisiodd ei ddeffro drwy wthio. darnau o bapur iddo. Fflamiai'r rheini am ennyd cyn gollwng eu düwch llosgedig i anurddo'r ffender. Beth a ddywedai Mrs. Morris? Ond daria, yr oedd yn rhaid iddo gael cynhesrwydd. Aeth at ddrws y gegin.

"Mae arna' i ofn bod y tân ar ddiffodd, Mrs. Morris."

"Mi ro' i bric ynddo fo 'rŵan."

"Diolch yn fawr."

Dioddefasai Dan lendid eithafol a chynildeb Mrs. Isaac Morris, Ship Street, am dros chwe mis bellach, gan ofni brifo teimladau mam Emrys drwy adael y lle. Gan yr âi adref bob diwedd wythnos, o brynhawn Sadwrn tan fore Llun—ef oedd gohebydd "Y Gwyliwr" yn y cyfarfod a gynhelid yn Llechfaen bob nos Sadwrn,— dim ond saith swllt yr wythnos a dalai am ei lety, a cheisiai roi pedwar, weithiau bum, swllt yn rheolaidd i'w fam. Gwisgai ei ddillad a'i esgidiau gorau pan âi i Lechfaen, a chredai y twyllai ei rieni fod ei fyd yn un gweddol lewyrchus. Medrodd ennill ychydig sylltau yn ychwanegol at ei gyflog deirgwaith drwy "lineage"—gyrru telegramau o newyddion i bapurau Lloegr-ond pur anaml y cyffroid Caer Fenai a'r cylch gan ddigwyddiadau a ystyriai'r newyddiaduron hynny'n ddigon pwysig i roi sylw iddynt. A bodlonai Dan fel rheol ar ei bymtheg swllt —gan ohirio prynu crys neu esgidiau neu gôt fawr er mwyn cynorthwyo'r teulu gartref.

Daeth Mrs. Morris i mewn i wthio darnau o goed i'r tân. "Diar annwl, be' sy wedi digwydd yma?" cwynfannodd. "O, mae'n ddrwg gin' i, Mrs. Morris. Trio'i gadw fo i fynd hefo papur wnes i."

"Hm." Ymguddiai huodledd mawr yn yr ebychiad.