Tudalen:Chwalfa.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhoes bedwar lwmp o lo yn ofalus ar y tân, fel petai'n siarsio pob un i wneud ei orau. Yna brysiodd allan i nôl taclau i lanhau'r grât a'r ffender, ac ymhen ychydig funudau yr oedd y lle tân yn sglein i gyd unwaith eto; yn wir yr oedd mor loyw nes i'r tân ei hun gau ei lygaid euog yn llwyr o flaen y fath ddisgleirdeb.

"Mi ro' i dipyn o saim ynddo fo. Mi ddaw o wedyn. 'Gymwch chi'ch swpar 'rwan, gan fy mod i isio rhedag allan i weld fy chwaer yng nghyfraith?

"O'r gora', Mrs. Morris. Diolch."

Llygoden fach o ddynes yswil, nerfus, oedd Mrs. Morris a dreuliai'i dydd o fore gwyn tan nos yn erlid pob ysmotyn o lwch a fentrai i'w thŷ. Pechodau'r oes a rhinweddau eithriadol y diweddar Isaac Morris oedd unig destunau'i sgwrs, y ddau, a barnu oddi wrth ei thôn, mor drist â'i gilydd. Clywsai Dan si o lawer cyfeiriad i'w gŵr o deiliwr adael arian mawr a thai ar ei ôl yr oedd yn bur debyg y gadawai Mrs. Morris fwy, er nad oedd ganddi ond perthynasau pell i fwynhau'r cyfoeth. Yn rhyfelgyrch y llwch yr oedd ei hunig fwynhad hi.

Wrth fwyta'i swper o fara-ymenyn a the a phwdin du, syllodd Dan braidd yn gas ar y llun o Isaac Morris a'i wraig ar y wal gyferbyn ag ef. Yr oedd gwên wag, nefolaidd, ar ei hwyneb hi, ond edrychai ef i lawr i ddryswch ei farf, fel petai newydd ddarganfod bod y tyfiant hirllaes yn perthyn iddo. Beth yn y byd a wnaethai i'r ddau hyn fynd i dynnu'u lluniau? gofynnodd Dan iddo'i hun. Gerllaw i'r llun, fel pe i egluro paham, disgleiriai mewn llythrennau arian ar gefndir o fôr euraid yr adnod, CHARITY SUFFERETH LONG. Yr oedd amryw o adnodau o'r fath hyd y muriau, ond ni theimlai Dan yn grefyddol wrth edrych arnynt: yr oedd eu ffuantwch addurnol yn troi arno, a phetai ganddo'r hawl i ymyrryd rhoddai hwy oll yn anrheg i ddyn y drol ludw ryw fore Llun. A llu o'r teganau dienaid y tynnai Mrs. Morris lwch mor ddiwyd oddi arnynt o ddydd i ddydd.

Agorodd eto y llyfr a ddarllenai cyn mynd gydag Emrys i'r orsaf. Cyfieithiad o Ail Ran Faust gan Goethe ydoedd, un o hoff lyfrau'r Ap, ac fel y darllenai, clywai lais y gŵr hwnnw'n taranu rhai o'r llinellau, fel pregethwr mewn hwyl. Hy, nid oedd Emrys a'r hogiau eraill yn cyffwrdd pethau fel hyn yn y Coleg: câi ef well addysg ganwaith yng nghwmni'r Ap. Yr oedd barddoniaeth Dryden, er enghraifft, bron mor sych