Tudalen:Chwalfa.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â llyfr rhent iddo yn y Coleg, ond y noson o'r blaen pan ddarllenodd yr Ap un o gerddi'r bardd yn uchel, gan gerdded—braidd yn feddw—o amgylch ei ystafell i weiddi ac actio'r darn, fflachiai golau ym mhob llinell. Dyna beth oedd addysg, nid rhyw bori fel gafr wrth gadwyn.

Ond heno rywfodd, ni châi Dan fwy o flas ar awen Goethe nag ar y pwdin du. Cododd oddi wrth y bwrdd ac eisteddodd yn anniddig wrth y tân dilewych. Yr oedd Emrys yntau yn ei lety erbyn hyn, ac uchel oedd siarad a chwerthin yr hogiau wrth adrodd am helyntion y gwyliau. Cyn hir, canai Meirion "Llwyn Onn " ar yr organ a safai W.O. ar yr aelwyd i ganu penillion ar uchaf ei lais. Gwenodd Dan wrth feddwl am W.O. Ni phasiai ef arholiad byth yn wir, gan mai prin yr edrychai ar lyfr tan ryw wythnos cyn y prawf, yr oedd ganddo wyneb i eistedd un-ond yr oedd yn ganwr penillion heb ei ail, a'i dafod chwim yn enwog drwy'r Coleg. Cofiai Dan yr hwyl a fu pan gasglodd W.O. ryw ddwsin o fyfyrwyr i ystafell ffrynt y llety i ddysgu'r ddrama ar gân a luniasai ef. Yr oedd y parlwr yn rhy fach ac aeth W.O. at Mrs. Jones, y lletywraig, i ofyn am fenthyg yr ystafell ganol yn ei le. "Ydach chi'n gweld, Mrs. Jones," meddai yn ei ffordd sych, ddi-wên, " hyd yn oed pan ydan ni i gyd i mewn yn y rŵm ffrynt, mae'n hannar ni tu allan." Ia, un da oedd W.O.

Cydiodd Dan eto yn y cyfieithiad o waith Goethe, ond nid oedd hwyl darllen arno. Cerddodd o amgylch yr ystafell, ac yna safodd i gyfrif curiadau lleddf cloc y dref. Dim ond wyth o'r gloch! Syllodd ar y llun o briodas chwaer Isaac Morris. Fel rheol, gwnâi'r llun hwnnw o'r ddynes fer fer a'r dyn tal tal iddo chwerthin wrtho'i hun, ond heno ni ddôi gwên i'w wyneb. Brysiodd Mrs. Morris i mewn i glirio'r bwrdd.

"O, mae'r tân yn dŵad . . . Isio rhedag i fyny i weld fy chwaer yng nghyfraith, Rachel druan! "

"O? Be' sy, Mrs. Morris?

"I gŵr hi, yr hen gena' iddo fo. 'Wn i ddim be' sy'n dŵad o'r byd 'ma, na wn i, wir. "Tasa' Isaac druan yn fyw, mi fasa' hyn yn ddigon i'w yrru o i'w fedd. A hitha'n ddynas fach mor dduwiol. Yn rhoi emyn allan yn y Cwarfod Gweddi ac yn siarad weithia' yn y Seiat. Y beth fach."

Pwy, Mrs. Morris?