Tudalen:Chwalfa.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Be' mae o'n wneud i fyny yma?"

"'Wn i ddim. Ond yn y chwaral yr oedd o'n gweithio."

Rhedai'r llwybr uwch dyfnder rhyw hafn greigiog ac ar ei gwaelod yr oedd llyn bychan, yn dywyll fel cysgod ac yn llonydd fel rhywbeth marw. Edrychodd y ddau yn syth o'u blaenau, heb ddywedyd gair.

"Lle unig ofnadwy," meddai Llew ymhen ysbaid, gan geisio cadw ofn o'i lais.

"Y lle mwya' unig yn y byd," sylwodd Gwyn yn herfeiddiol. "Mwy unig o lawar na'r Alps hynny yr oedd rhyw ddyn yn yr ysgol yn 'u dringo."

"Pa ddyn?

'Dydw' i ddim yn cofio'i enw fo... Efalla' y rhôn' nhw ni mewn llyfr ryw ddwrnod, Llew."

Chwarddodd Llew, ond nid oedd ei chwerthin yn llon. Gwelai fod ei frawd yn cloffi eto: gwyddai hefyd fod y niwl yn llithro'n is bob munud.

"Rhaid iti dynnu d'esgid eto," meddai, " er mwyn imi gael rhoi hannar arall y nôt-bwc ynddi hi." Eisteddodd Gwyn ar ddarn o graig ac ufuddhau. Yr oedd y dalennau a dynnodd o'r esgid yn wlyb a budr erbyn hyn, gan chwys ei droed a lleithder y llwybr. Taflodd Llew hwy ymaith a gwthiodd y rhai glân i'w lle.

Tyd, mae'n rhaid inni frysio," gorchmynnodd wedi i Gwyn gau ei esgid.

Ai'r llwybr yn awr hyd ochr y dibyn, gan gilio weithiau fel pe mewn ofn a mentro'n ôl wedyn at fin y graig. Ymhell bell islaw gorweddai'r llyn bychan di-grych yn nhawelwch ei wyll ei hun.

Prysurodd y ddau fachgen eu camau, a chyn hir gwelent res o gytiau bychain mewn cilfach yn y mynydd uwchlaw iddynt. Yno yr oedd dynion y gwaith copr yn byw a chysgu o fore Llun tan brynhawn Sadwrn.

"Gobeithio y bydd rhywun yno, yntê?" meddai Llew.

"Bydd, debyg iawn," atebodd Gwyn yn ffyddiog.

Pan ddringent y llethr islaw'r cytiau,"Dacw fo'r Manijar," sylwodd Gwyn yn sydyn.

Deuai gŵr tal a chydnerth allan o'r cwt yr oedd y gair OFFICE ar ei ddrws. Safodd ac edrych yn syn arnynt.

"What do you boys want up here?" gofynnodd pan ddaethant ato.