mewn tram. Chwarddodd Wmffra ac Enoc yn uchel, ac yna, i lawn fwynhau'r stori, ymroes y ddau i gyrraedd gwaddod eu cwrw. Nodiodd Enoc ar y ferch tu ôl i'r bar, ac er ei fraw gwelai Dan hi'n llenwi tri gwydr arall. Ymhen ennyd yr oedd gan Wmffra ac Enoc bob un ei wydraid, ond yr oedd dau a hanner o'i flaen ef. Beth yn y byd a wnâi â hwy? Penderfynodd gofio'n sydyn fod yn rhaid iddo ddychwelyd y llyfr i dŷ Emrys. Yfodd beth o'i ddiod ei hun yn gyflym ac yna cododd.
Yfwch rhein drosta' i, gyfeillion," meddai, gan wthio'i ddau wydraid tuag atynt. "Y llyfr 'ma. Ffrind imi isio fo yn y Coleg. Trên naw." Ac i ffwrdd ag ef tua'r drws, ond nid cyn i'r Ap ei weld. Pan oedd ar ganol chwerthiniad uchel, arhosodd ceg y gŵr hwnnw'n agored mewn syndod, a chroesodd yn gyflym at Wmffra ac Enoc.
"Be' oedd Daniel yn wneud yma?" gofynnodd.
Ateb Wmffra oedd winc ddoeth tros ymyl ei wydraid. "Mae gynno fo gystal hawl â ninna' yma," meddai Enoc yn sarrug. Un go flêr yn ei waith fel cysodydd oedd Enoc a chawsai dafod gan yr Ap y prynhawn hwnnw.
Tu allan, wrth gamu o'r drws i balmant y stryd, gwrthdrawodd Dan yn erbyn dynes fechan a âi heibio. Mrs. Morris! A adnabu hi ef, tybed? Rhag ei dilyn, troes i'r cyfeiriad arall, gan gofio'n bryderus i'r diweddar Isaac Morris fod yn un o apostolion mwyaf brwd y dref yn achos Dirwest. Aeth ar gylch drwy fân ystrydoedd i gyrraedd ei lety yn Ship Street, a phan gurodd ar y drws agorwyd ef ar unwaith gan Mrs. Morris, â channwyll olau yn ei llaw. Dilynodd hi ef i'w ystafell, a safodd wrth y drws tra goleuai ef y lamp a thynnu'i gôt fawr a tharo'r llyfr yn ei ôl ar y silff. Yr oedd y tân claf wedi marw.
"Sut mae'ch chwaer, Mrs. Morris?"
"Cystal â'r disgwyl, wir." Yr oedd ei thôn yn sych. "Mae hi'n rhewi'n galad heno, ond ydi?"
"Mae hi'n ddigon cynnas mewn rhai llefydd, mae'n debyg."
Edrychodd Dan arni: yr oedd ei gwefusau tenau'n dynn a'i llygaid yn galed, a chrynai'r gannwyll yn ei llaw.
"Y 'Black Boy' 'na, er enghraifft, chwanegodd hi, a'r cryndod a oedd yn y gannwyll yn treiddio hefyd i'w llais.