"Ond hannar awr yn ôl . . .
"Gan mai dysgu inffants yr ydw' i am wneud, yntê?" A gwyddai Dan mai ofer fyddai dadlau â hi.
Am wythnosau, wrth eillio'i wyneb yn y bore ac wrth droi i'w wely yn y nos, llafar-ganai'r Ap mewn gorfoledd mawr ddarnau o'r awdl, "Ymadawiad Arthur." A bu raid i Dan actio Bedwyr lawer noson tra gorweddai Arthur yn llesg a bloesg ar y soffa yn yr ystafell-fyw: gorfu hefyd i rai o ddeiliaid y "Black Boy" a'r "Harp" roi eu clebar heibio droeon i wrando'n ddwys am ogoniant Ynys Afallon. Cytunai pawb yn yr Harp' â barn Wil Llongwr y gwnaethai'r Ap "goblyn o bregethwr," a " Diar, dyna biti na fasa' fo wedi mynd i'r weinidogaeth, yntê?" oedd sylw Mrs. Rowlands bob bore wrth Dan fel y deuai'r rhyferthwy o lais o'r llofft. Pan fentrodd Enoc y cysodydd droi'n dipyn o feirniad llenyddol a dweud wrth Wmffra Jones nad oedd yr awdl y gwirionai'r Golygydd arni "ddim patch ar Ddinistr Jerusalem'", "Mae 'piniwn ym mhob pennog," rhuodd yr Ap fel un yn cyhoeddi gwae.
Wedi i Emrys ddychwelyd i'r Coleg yn nechrau Hydref, teimlai Dan braidd yn unig. Ond ysgrifennai'n rheolaidd at Gwen a threuliai lawer noson yn ail-gerdded y llwybrau a gerddent gyda'i gilydd yn yr haf. Ac fel y crwydrai trostynt, gwelai o hyd lygaid eiddgar a chyffrous y ferch a gredai mai ef oedd bardd y gadair ym Mangor. Efallai . . . efallai, ped âi ati, y gallai lunio awdl â gwerth ynddi. Yn Llanelli y byddai'r Eisteddfod y flwyddyn wedyn a thestun y gadair oedd "Y Celt."
"Y Celt . . ."Y Celt . . ." Gallai ddechrau drwy ddarlunio'r hydref a welai ar y crwydriadau hyn o gylch Caer Fenai, ac yna lithro'n ôl drwy hydrefau lawer i weld yr un hen ffermwr tawel, esgyrniog, er gwaethaf Sais a Norman a Rhufeiniwr, a holl helyntion a chyffroadau'r blynyddoedd, yn troi'n araf o'r beudy tua'r tyddyn ac yn breuddwydio'i freuddwydion syml wrth syllu ar ogoniant y machlud draw uwch y môr. Ac â hyder yr ifanc yn llawenydd drwyddo, naddodd Dan agoriad ei awdl:
"Gŵyra rhwd frig y rhedyn, |