Tudalen:Chwalfa.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y ddôl a'r ysgub olaf
Yn ogwydd ar ysgwydd haf . . ."

A oedd eisiau ateb yr "r" o flaen " ysgwydd," tybed? Nid oedd yn sicr, ond fe holai'r Ap ar y pwnc, gan gymryd arno mai ymboeni i feistroli'r cynganeddion yn llwyr yr oedd. Ni soniai am yr awdl wrtho ni ddywedai air wrth neb—nes dôi'r amser iddo ddarllen darnau o'r gerdd i Gwen.

"Gwaeda'r mwyar, a mud
Cloddiau haf: ciliodd hefyd
Ruthr y plant o berthi'r plwy',
A hudir yr hen feudwy,
Y llwynog, tua'r llennyrch,
Yna'r cŵn i ffroeni'r cyrch . . ."

Disgrifiai'r cyrch wedyn, a'r Sgweier a'i gyfeillion, Saeson oll, yn carlamu heibio i'r tyddyn a hyd yn oed tros ei gaeau llwm, a'r hen ffermwr, y Celt gwyredig, mud, yn eu gwylio ac yn eu goroesi hwy . . . A phob hwyr am bythefnos, yr awdl, yr awdl oedd popeth i Ddan.

Yng nghanol y mis, pan edrychai Idris a Kate yn bryderus ar yr afon dywyll islaw'r tŷ ym Mhentref Gwaith, yr oedd hi'n tresio bwrw yng Nghaer Fenai hefyd. Yn lle cydio yn ei ffon ar ôl swper, i gerdded ger afon Menai neu hyd lonydd y wlad, arhosai Dan yn anniddig yn y tŷ, "fel pelican dan annwyd," chwedl yr Ap, a fethai'n lân â'i gymell i fynd gydag ef i gwmni llawen Wil Llongwr ac eraill. Byr ac amhrydlon oedd llythyrau Gwen: yr oedd hi'n brysur iawn yn y Coleg, meddai, a chawsai hi a ffrind iddi ganiatâd arbennig i fynd i ganu mewn cyrddau croeso-i-fyfyrwyr a gynhelid yn y gwahanol gapelau. "Ffrind," meddai Dan wrtho'i hun yn amheus, gan ddychmygu rhyw "Hywel " o fyfyriwr yn haeru mewn capel yn gyhoeddus a than goed Siliwen mewn islais crynedig fod ei galon yn eiddo i Blodwen erioed. Taflodd ei awdl o'r neilltu.

Arhosodd Dan yng Nghaer Fenai bob diwedd wythnos tra oedd ei fam yn y De, a threfnwyd i Ben Lloyd, y gohebydd lleol, yrru i'r Gwyliwr hanes y cyfarfodydd yn Llechfaen. Ac ar ei nos Sadwrn gyntaf yn nhŷ'r Ap y torrodd yr addewid a wnaethai i Kate.