Tudalen:Chwalfa.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

maen' nhw yno. Nid cynffonna y mae John, cofiwch. Wedi'i yrru i gongol y mae o. I drio achub Ceridwen druan y mae o'n gwneud hyn. A 'thaech chi yn 'i le fo, efalla' mai'r un peth a wnaech chitha'."

"Efalla', wir, Martha; efalla', wir." Curodd ei bibell ar fin y pentan a chododd. "Na, 'fydda' i ddim yn gas wrtho fo. Nid Bradwr yn ystyr arferol y gair ydi John. Ond mae'n dda gin' i mai chi ac nid y fo ddaru dorri'r newydd imi. Mi a' i draw yno am sgwrs fach. Am sgwrs fach." Ailadroddodd y frawddeg olaf yn freuddwydiol fel y cychwynnai tua'r drws.

Gwelai wrth groesi'r stryd fod y cerdyn herfeiddiol wedi'i dynnu o ffenestr parlwr y tŷ tros y ffordd. Aeth i'r drws cefn ar hyd y llwybr a redai wrth dalcen y tŷ, ac agorodd ef heb guro.

"'Oes 'na bobol yma?" Ceisiai swnio'n llon, gan gofio bod angen pob gronyn o sirioldeb ar Geridwen."

"O, hylo, F'ewyrth. Dowch at y tân."

"Sut wyt ti'n teimlo hiddiw, Ceridwen?"

"Ddim cystal heddiw. Yr hen oerni 'ma'n deud arna' i, mae'n debyg. Ond be' arall sy i'w ddisgwyl yr amsar yma o'r flwyddyn, yntê?"

Yr oedd hi wrthi'n yfed gwin wedi'i wneud o aeron y goeden ysgaw a'i gadw â weiren ddur ynddo am rai wythnosau. Ni allent fforddio'r "steel wine "" port wine" â haearn ynddo a archodd y meddyg.

"'Rwyt ti'n mynd ar dy sbri yn o fora, hogan."

"Ydw', ond ydw'? 'Wyddwn i ddim y basa' 'na flaenor yn galw i'm gweld i."

Deuai sŵn llifio prysur o'r cwt yn y cefn.

"Dy dad sy wrthi?" gofynnodd ef gan wenu.

"Ia." Gwenodd hithau. Clywid y sŵn hwnnw yng nghefn llawer tŷ yn Llechfaen, ond ni holai neb o b'le y deuai'r coed a lifid yn flociau ar gyfer y tân. Ar gais Mr. Price-Humphreys, bu ambell blisman ar ei draed rhewllyd drwy'r nos droeon yn ymyl Annedd Uchel, ond yn rhyfedd iawn, ni thorrodd y sŵn ar hedd y nosau hynny. Ond un noson pan ysgrechiai gwynt mileinig o gwmpas y tŷ, tybiai Miss Price-Humphreys, a grynai mewn dychryn yn ei gwely, y clywai