Tudalen:Chwalfa.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sŵn llif bron o dan ei hystafell. Hunllef ydoedd, meddai wrthi'i hun, gan wthio gwlân i'w chlustiau cyn rhoi'i phen o dan y dillad i geisio cysgu eto. Breuddwydiodd fod rhyw storm ryfedd ac ofnadwy ar ei hynt heibio i'r tŷ. Arhosodd y dymestl enbyd wrth Annedd Uchel ennyd ac allan o'i thywyllwch cynhyrfus rhuthrodd dwsin o gythreuliaid, pob un â'i lif a'i fwyall, a'i wyneb wedi'i bardduo. Pan gododd Miss Price-Humphreys yn y bore ac edrych allan drwy'r ffenestr, gwelai fod coel ar freuddwydion weithiau.

"'Wnewch chi ddim bod yn gas wrth 'Nhad, na wnewch, 'Fewyrth Edward?"

Yn gas! Daear annwl, na wna', Ceridwen fach."

"Mi driais i 'i berswadio fo i aros am dipyn eto. Ond 'wnâi o ddim. Y Doctor wedi ordro petha' imi, a 'fynta'n benderfynol o'u cael nhw. 'Doedd 'na ddim ffordd arall, medda' fo."

Ceisiodd Edward Ifans beidio ag edrych ar ei hwyneb gwyn, di-waed nac ar ei dwylo esgyrniog nac i'w llygaid mawr gloyw. Cofiai'r amser pan soniai pawb am Geridwen, a oedd yr un oed â Megan, fel gwniadwraig hynod ddeheuig ac fel un o enethod prydferthaf yr ardal. Rhwng cyflog ei thad yn y chwarel a'r sylltau a enillai hi, deuai arian da i'r tŷ bob wythnos, ac nid oedd teulu hapusach yn Llechfaen na John a'i wraig a'i ferch. Ond ychydig wythnosau cyn i'r streic ddechrau, collodd Ceridwen ei mam ar ôl misoedd o waeledd pryderus a chostus, ac yn fuan wedyn ymunodd ei chariad, llanc go ddi-ddal a direol, â'r Gwirfoddolwyr Cymreig i ymladd yn Neau'r Affrig. Dywedai rhai iddo godi i fod yn swyddog pwysig yn y Fyddin, dywedai eraill iddo briodi gwraig gyfoethog yng Nhape Town, ac eraill drachefn iddo ddarganfod gwythïen aur yn y Transvaal, ond ni wyddai neb ddim hyd sicrwydd—ond na ddychwelodd ef na'r arian a fenthyciasai i Lechfaen. Ciliodd y gwrid o ruddiau Ceridwen, a blinai'n gynt a chynt wrth ei gwaith yn y parlwr. Hynny o waith a gâi, oherwydd âi hwnnw'n llai bob wythnos wedi i'r streic ddechrau, a chyn hir darfu'n gyfan gwbl bron. Yn ei gwely, a rhywun yn gweini arni, y dylai'r ferch hon fod ers misoedd lawer, meddyliodd ei hewythr yn awr, nid yn ymdrechu codi o ddydd i ddydd ac yn ystwyrian yn eiddil a methedig o gwmpas y tŷ. Un arall o'r lliaws a aberthid ar allor y streic.