Tudalen:Chwalfa.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mi a'i i'r cwt at dy dad am funud," meddai, gan godi."O'r gora', F'ewyrth. Mi . . . mi gymwch ofal be' be' ddeudwch chi wrtho fo, on' wnewch?"

"Gwnaf, debyg iawn, 'ngeneth i, gwnaf. Rhaid iti ddim pryderu am hynny. Ond mae'n well i'th dad a finna' gael dallt ein gilydd, ond ydi? Yn lle bod y peth yn gysgod rhyngom ni, yntê?"

Aeth allan, ac wedi gwyro'i ffordd i mewn i'r cwt, eisteddodd ar flocyn, yn wynebu'i frawd. Rhoesai hwnnw'i lif heibio ac aethai ati i hollti dau neu dri o flociau yn goed tân.

"Wel, Edwart?"

"Wel, John?"

"Hen gena' cnotiog, fachgan, go daria fo. 'Does dim hollti ar y cradur."

"Rhaid iti gymryd cŷn a mwthwl ato fo, John."

"Rhaid, fachgan, ne' mi dorra' i'r fwyall 'ma." Cododd i estyn cynion a morthwyl oddi ar silff gerllaw. Griddfannodd mewn poen wrth eistedd drachefn.

"Yr hen ben-glin 'ma, go daria fo. Mae o'n brathu'n ffyrnig hiddiw. Yr eira 'ma, mae'n debyg."

Buan, a chwarelwr â'i gŷn a'i forthwyl yn ei drin, yr holltodd y blocyn. Ai John ati â'i holl egni a pharablai'n nerfus bob ennyd—am yr eira, am ei ben-glin, am y blociau, am wlybaniaeth yng nghongl y cwt, am bopeth ond y chwarel. Dyn mawr afrosgo oedd John Ifans, a'i freichiau hirion, llipa, fel pe wedi'u hongian wrth ei ysgwyddau yn hytrach na'u gwreiddio yno. Pan gerddai, taflai'i liniau i fyny a syrthiai'i draed yn fflat a thrwm ar y ddaear, a gwthiai bron bob amser fodiau'i ddwylo i dyllau-breichiau ei wasgod. Ond yr oedd tebygrwydd yn wynebau'r ddau frawd—yr un talcen uchel, urddasol, yr un llygaid llwyd, breuddwydiol, yr un trwyn Rhufeinig i'r ddau. Yn y genau yr oedd y gwahaniaeth mawr, gwefus isaf Edward yn dynn a chadarn ac un ei frawd yn gwyro'n guchiog bob amser bron. Nid cuchio a wnâi John ei hun er hynny, er gwaethaf ei wefus: yr oedd yn ddyn llawn hiwmor a pharod iawn ei gymwynas, a bu'r ddau frawd yn gyfeillion calon erioed.

"Wel, John?" Yr oedd y mân destunau wedi'u dihysbyddu a'r blocyn olaf wedi'i hollti.

"Wel, Edwart?" Syllodd John yn eofn a sicr ar ei frawd, heb ddim euogrwydd yn ei edrychiad.