Tudalen:Chwalfa.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Galw yr on i i ddweud . . . i ddweud dy fod di'n . . . gwneud y peth iawn, John."

Nid oedd yr edrychiad mor eofn a sicr yn awr. Cronnodd dagrau yn y llygaid, a chododd John Ifans yn frysiog i daro'r cynion a'r morthwyl yn ôl ar y silff. Oedodd yno, a'i gefn at ei frawd, gan gymryd arno drefnu'r arfau a oedd ar y silff. Cododd Edward yntau, gan feddwl cychwyn ymaith.

"Diolch iti, 'r hen Ed, diolch o galon. 'Rydw' i wedi ofni'r munud yma, fachgan, wedi methu â chysgu'r nos wrth feddwl amdano fo. 'Be' ddeudith Edwart, a 'fynta'n Is-lywydd y Pwyllgor?'—dyna oeddwn i'n ofyn i mi fy hun o hyd o hyd. Ia, 'nen' Tad, fachgan, byth beunydd. A phan glywis i am . . . am Gwyn bach, mi 'steddais i lawr ar unwaith i sgwennu i'r chwaral i dynnu f'enw'n ôl. Ond 'doedd Ceridwen druan ddim hannar da y pnawn hwnnw, a phan edrychis i ar 'i hwynab hi a'i gweld hi'n trio ymlusgo hyd y tŷ 'ma . . . 'Wyt ti . . . 'wyt ti o ddifri' wrth ddeud nad wyt ti ddim yn gweld bai arna' i Edwart?

"Ydw', Johnnie, ydw'."

"Dy frawd dy hun yn troi'n Fradwr! "

"Nid troi'n Fradwr ydi hyn, John, ond aberthu . . ."

"Aberthu egwyddor."

"Er mwyn arall. Mae'n bur debyg y gwnawn inna'n hollol yr un fath 'tai . . . 'tai Martha ddim yn dda ac yn gorfod cael y Doctor. Mae arna' i ofn y bydd amryw o'r dynion yn gorfod ildio cyn hir."

"Be' arall fedra' i wneud, Edwart? Yr ydw' i'n rhy hen i fentro i'r Sowth. Mi fûm i'n meddwl am y gwaith dŵr 'na yn Rhaeadr, ond bychan ydi'r cyflog yn y fan honno ac mae o'n lle drwg gynddeiriog am gryd cymala', meddan' nhw. Dim ond ychydig wythnosa' arhosodd Dafydd, brawd Huw 'Sgotwr, yno, a 'rŵan mae o bron â methu mynd i fyny ac i lawr y grisia' nos a bora . . . 'Rydan ni'n cael ein cornelu fel llygod, Edwart."

"Pryd.. pryd y gwnest ti dy feddwl i fyny, John?"

"'Wn i ddim yn iawn. Pan oedd Martha yn y Sowth y dechreuis i feddwl o ddifri' am y peth. 'Roedd hi wedi bod mor ffeind, fachgan, yn galw yma bob bora i wneud y gwlâu a llnau a gofalu am Geridwen. 'Roedd hi'n chwith ofnadwy ar 'i hôl hi. Ond mi ddysgis i lawar yr wsnosa' hynny, ac 'ron