Tudalen:Chwalfa.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i cystal ag unrhyw ddynas yn y tŷ, medda' Ceridwen. 'Roeddan ni'n dau yn trio gwneud hwyl o'r peth, ond 'roedd fy nghalon i'n gwaedu wrth weld yr hogan druan yn gwneud llai a llai bob dydd. Yn trio'i gora' glas, Ed, ond yn methu." Cronnodd y dagrau yn ei lygaid eto ac aethai'i lais yn sibrwd bloesg."Wedyn, y diwrnod yr est ti â Gwyn i Lerpwl, mi alwodd Doctor Robaits yma. 'Doeddwn i ddim wedi gofyn iddo fo ddŵad-'fedrwn i ddim fforddio talu iddo-ond mi ddaeth ar unofficial visit, chwedl ynta'. Hen fôi iawn ydi'r Doctor, fachgan. Ia, 'nen' Tad, un o eneidia' prin yr hen fyd 'ma."

"Ia." Nodiodd Edward Ifans, a'i feddwl yntau'n mynd yn ôl i'r bore Iau hwnnw."Be' ddeudodd o, John?"

Mi ges row gynddeiriog gynno fo, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Anemia, gwendid mawr, medda' fo. Pam na faswn i wedi'i alw fo i mewn ers misoedd er mwyn iddi hi gael y peth yma a'r peth arall? Chweugian yr wsnos o'r Undab ydi'r cwbwl sy'n dwad i'r tŷ 'ma, Doctor,' medda' fi wrtho fo. Dyna pam na wnes i ddim gyrru amdanoch chi.' Mi fùm i bron â sgwennu i'r chwaral y noson honno. Ond 'wnes i ddim, ac mi fu'r peth fel hunlla' ar fy meddwl i am ddyddia'. Y dydd Mawrth wedyn y sgwennis i. 'Wn i ddim pam y buon' nhw cyhyd cyn atab—os nad oeddan' nhw am ymddangos yn annibynnol. Yr ydw' i i ddechra' ddydd Llun. Mi fydd hi'n rhyfadd gynddeiriog yno hebddat ti, Edwart. Rhaid imi gadw fy nhempar hefo pwy bynnag y bydda' i'n gweithio hefo fo, on' rhaid?"

"Rhaid. A . . . Cheridwen?"

"Mi fedra' i godi at fy ngwaith yn iawn yn y bora ac mi geiff hi aros yn 'i gwely nes daw'r hen Fargiad Williams yma i gynna' mymryn o dân a gwneud 'panad iddi. Mi fydd Margiad druan yn falch o'r ychydig syllta' ro' i iddi bob wsnos. Mae petha' wedi mynd yn fain ofnadwy yno, Edwart. Tri a chwech yr wsnos mae hi'n gael o'r Gronfa, ac mae'i rhent hi'n ddeunaw. Dim ond cadw'i hun mae Em yn medru'i wneud tua Lerpwl 'na, a 'dydi Harri druan yn cael ond y nesa' peth i ddim o rags ers tro byd. Pwy fasa'n meddwl y dôi petha' i hyn arno' ni, Edwart? . . . Aros am funud, mi ddo' i hefo chdi, imi gael rhoi rhai o'r blocia' 'ma i Martha. Lle rhois i'r hen sach honno, dywad? O, dyma hi."