Tudalen:Chwalfa.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

haws i mi sbario rhai o'r rhain, a Robat ddim yn dda." A thynnodd dri wy o'r cwd papur a rhoi'r gweddill yn nwylo John.

"Mi sbariwn ni'n dwy dri wy, ynta'," meddai Catrin Williams. "O Lerpwl bora 'ma, Meri Ann wedi'u gyrru nhw."

"Be' ydi hyn am Robat?" gofynnodd Edward Ifans iddi.

"Annwyd ofnadwy. 'Roedd o isio codi bora 'ma, ond mi es i â'i ddillad o i lawr y grisia' a'u cadw nhw'n saff. 'Mi geiff aros yn 'i wely,' medda' fi, 'tasa' raid imi 'i raffu o yno, cwarfod ne' beidio.'Mae o'n un penderfynol, wchi. Ond mi ildiodd ar ôl imi ddwyn 'i ddillad o. Os dowch chi i lawr pnawn 'ma, Edward Ifans. Mae o isio i chi gymryd y gadair yn 'i le fo yn y cwarfod heno. Y cynta' iddo fo'i golli drwy'r holl amsar, wchi . . . Wel, rhaid imi fynd rhag ofn iddo fo gymryd yn 'i ben i chwilio am 'i ddillad. Mi gofia' i am yr wya', John Ifans. Mi ddowch chi i lawr, on' ddowch, Edward?"

"Yn fuan ar ôl cinio, Catrin Williams."

Pan alwodd yn y prynhawn, yr oedd Robert Williams yn ei wely o hyd a thân wedi'i gynnau yn y llofft. Tân bychan iawn ydoedd, o goed bron i gyd, ond fe dorrai ias yr oerni ac eisteddodd Edward Ifans yn ddiolchgar wrtho.

"Mae arna' i isio iti gymryd y gadair heno, Edward," meddai'r claf. Dywedai'i lais fod annwyd trwm arno: dywedai'i wyneb a'i ddwylo tenau nad oedd ganddo lawer o nerth i'w ymladd, a da y gwnaethai Catrin Williams i gadw'i gŵr yn ei wely.

"Y cwarfod cynta' imi golli, fachgan," chwanegodd yn ddigalon."Mi fûm i bron ag aros gartra' Sadwrn dwytha'. 'Roedd yr hen annwyd yma arna' i y pryd hwnnw. 'Fedra' i yn fy myw gael gwarad â fo."

"'Doeddach chi ddim ffit i ddŵad i'r cnebrwng ddydd Llun, Robat Williams. Dyna oedd Martha a finna'n ddeud ar ôl i chi fynd adra'."

"Efalla', wir. Ond 'roedd Gwyn bach yn fy nosbarth i yn yr Ysgol Sul. Oedd. Oedd." Yr oedd ar fin dweud chwaneg wrth gofio am Gwyn, ond tawodd."'Fydd 'na