Tudalen:Chwalfa.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanas ni fel chwarelwyr. Pan aeth yr Undab i lawr ymhen rhai blynyddoedd, o wyth mil i ddwy fil o aeloda', be' ddigwyddodd? Yr un hen heintia'—gorthrymu a budr-elwa ar un llaw, seboni a chynffonna ar y llall. A 'thaem ni yn Llechfaen a'r cylch wedi bod yn ffyddlon i'r Undab, Edward, 'fasa'r drygfyd hwn ddim wedi meiddio cydio yno' ni."

Daeth Catrin Williams i mewn i roi blocyn ar y tân, a chododd Edward Ifans i gychwyn tuag adref.

"Rhaid imi fynd, i feddwl am bwt o bregath," meddai. "Plant y drws nesa' 'ma," ebe Catrin, "allan yn yr eira a'u 'sgidia' nhw'n dylla' i gyd. Mae'n rhyfal mawr yng ngwaelod y stryd—plant 'RAllt Fawr yn erbyn plant y Bradwyr. Gobeithio y cadwan' nhw at belenni eira a pheidio â chodi cerrig, yntê? Diar, dyna garpiog a llwyd yr olwg mae'r plant yn mynd! Ond be' arall sy i'w ddisgwyl a llawar ohonyn' nhw'n gorfod byw mor amal ar fara sych, ne' fara-triog ar y gora', pan ddylan' nhw gael bwyd maethlon? . . . O, cofiwch am yr wya' 'na i Geridwen, Edward Ifans. Yr ydw' i wedi'u lapio nhw a'u rhoi nhw'n barod ar fwrdd y gegin fach." Safai wrth y ffenestr yn awr yn edrych allan.

"Hy, edrychwch arni hi yn torri cyt," meddai.

"Pwy, Catrin?" gofynnodd ei gŵr."

"Jane Gruffydd tros y ffordd, debyg iawn. Mae cert Now'r Bwtsiar yn mynd drwy'r stryd ac mae mei-ledi, wrth gwrs, fel gwraig i Fradwr, yn medru mynd allan â'i phwrs yn 'i llaw i brynu leg o lamb at 'fory. Dowch yma, Edward Ifans, i chi gael gweld y perfformans . . . Ia, y leg acw,' medda hi, y fwya' sy gynnoch chi.' A 'rwan, mae hi'n agor 'i phwrs, yn rhodras a chiamocs i gyd, gan obeithio bod pawb yn y stryd yn 'i gwyliad hi. "'Tawn i'n lle Now'r Bwtsiar, mi rown i leg o lamb iddi—ar 'i chorun! Ond dyna fo, mae'n rhaid i Now druan fyw, ond oes? Gwyliwch hi 'rwan, Edward Ifans; mae'n werth talu grot am weld y migmans nesa'. Mae hi'n dal y leg o lamb—ar 'i braich fel babi, yn troi i edrach i lawr y stryd, wedyn tros y ffordd—sefwch yn ôl, sefwch yn ôl—wedyn i fyny'r stryd cyn martsio i'r tŷ fel un wedi ennill y champion solo mewn 'steddfod. Hy, 'faint o arian sy arni hi i'r hen Siôn Crydd, mi liciwn i wbod? Yr hen Siôn druan—'glywsoch chi?"

"Be'?"