Tudalen:Chwalfa.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Smith. Wel, Syr,' meddai Enoc,' mi ges i fy nghyflog am fis bora 'ma, fel y gwyddoch chi, a 'wela' i ddim be' arall fedra' i 'neud.' 'I be' chi isio the cart?' gofynnodd Smith eto. I fynd â'r wraig a'r plant i'r Wyrcws, Syr,' oedd atab Enoc. A chwara' teg i Smith, fe gafodd Enoc godiad yn 'i gyflog y mis wedyn.

Yr oedd y stori'n un go hen, ond rhoddai ffordd sych, ddiwên Robert Williams o'i dweud ddigrifwch newydd ynddi.

"Ond fe ddaeth ymwared," meddai. "Diwygiad '74."

Edrychodd Edward Ifans yn ddryslyd arno. A oedd cof yr hen arweinydd yn dechrau pylu? "Diwygiad '74?" gofynnodd." 'Dydw' i ddim yn cofio bod 'na Ddiwygiad y flwyddyn honno."

"Y pwysica' o'r cwbwl, Edward, er nad oedd o ddim yn grefyddol 'i natur nac yn cael yr enw 'Diwygiad.' Gwaith gweddol hawdd, wel' di, ydi mynd i hwyl a cholli pen—a het—mewn Diwygiad—fel yr hen Fetsi Owen yn Niwygiad '59. Bendigedig fyddo'i enw!' medda' hi. Bendig—Hei, fy het i ydi'r un â'r rhuban pinc 'na.' Ond ychydig o wahaniaeth wnaeth y gweiddi a'r gorfoleddu i'r iro llaw yn y chwaral. Ond fe roes '74 asgwrn cefn yno' ni."

"Ffurfio'r Undab?"

"Ia, ffurfio'r Undab, a theimlo bod 'na unoliaeth a brawdoliaeth yn ein plith ni fel gweithwyr o'r diwadd. Yr Undab roes waelod yno' ni, Edward. 'Roedd yn rhaid inni ddewis rhwng yr Undab a'n gwaith, ond oedd? 'Wyt ti'n cofio'r placardia' hynny ym mhob ponc yn dweud y gwrthodid gwaith i Undebwyr? 'Roedd fy mrawd yn gweithio yn Llanarfon ar y pryd. Fe gaewyd y chwaral yno am wythnos, i roi amsar i'r dynion feddwl a oeddan' nhw am fynnu Undab ai peidio. Y bora Llun wedyn, bora tynar yng nghanol Mehefin, dyma ddwy fil a hannar yn mynd i'w gwaith gan wybod be' oedd o'u blaena' nhw. Wel, hwn-a-hwn,' meddai'r gosodwr ym mhob ponc, 'p'un ydach chi wedi'i ddewis, y fargan ne'r Undab? Yr Undab,' oedd atab dros ddwy fil ohonyn' nhw, gan godi'u harfa' a cherddad yn fyddin o'r chwaral. 'Roeddan' nhw'n arfar cynnal cwarfodydd ar graig fawr mewn lle canolog rhwng y pentrefi o gwmpas, a' Chraig yr Undab' ydi'i henw hi hyd hiddiw. Mewn undab mae nerth,' medda'r hen air, yntê? Mi fu'r ddiharab yn wir yn ein