Tudalen:Chwalfa.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhan fwyaf o'i ddodrefn er mwyn medru rhoi ychydig bunnoedd cil-dwrn i ryw swyddog llygredig. A 'dydyn nhw ddim yn cofio etholiad '68, 'ydyn' nhw?"

"A'r Merthyron."

"Ia, a'r Merthyron, y pedwar ugian a drowyd ymaith o'u gwaith am beidio â phleidleisio i'r Tori. 'Roedd fy nhad yn un ohonyn' nhw ac mi gafodd arian o'r Eviction Fund yn Aberystwyth i agor siop fechan. Ond ddaru o ddim byw yn hir: mi fuo farw ymhen blwyddyn—o hiraeth am y chwaral. 'Dydi llawar ohonyn' nhw ddim yn cofio etholiad '74 a chwarelwyr, yn Hwrê!' i gyd, yn tynnu'r Ymgeisydd Torïaidd mewn cerbyd drwy'r pentrana ac yn malu ffenestri Rhyddfrydwyr. Y cwbwl er mwyn cynffonna. Pabwyr ac nid pobol: 'roedd 'na bunt-y-gynffon i Dori."

'Dydach chi ddim yn gweld petha'n waeth yn ein hanas ni fel chwarelwyr, felly, Robat Williams?

"Gwaeth? Yr ydw' i wedi cyrraedd oedran pan ddylwn i sôn am gewri'r gorffennol, pan ddylwn i weld pawb yn hoelion wyth ers talwm ac yn sbarblis hiddiw. Ond nid felly y gwela' i betha'. Mae 'na fwy o asgwrn cefn yno' ni erbyn hyn.'

"Er gwaethaf y Bradwyr?"

"Er gwaethaf y Bradwyr, hiliogaeth daeog yr hen ddyddia', Edward. Y llwgrwobrwyo, y cynffonna, y pleidleisio diegwyddor mewn etholiad, y llwfrdra, y gwaseiddiwch, y bradychu anhygoel pan fentrai dynion cydwybodol sefyll dros egwyddor 'dydi llawar dalan yn y gorffennol ddim yn glod inni. Pan geisiwyd ffurfio Undab yn '65, be' fu? Yn agos i ddwy fil yn ymuno, ond cyn gyntad ag y daru nhw ddallt bod awdurdoda'r chwaral yn erbyn Undab ymhlith y gweithwyr, dyma nhw'n tynnu'n ôl yn heidia' ar unwaith. A phan drowyd y Merthyron o'r chwaral, be'fu? Cynnal cwarfod mawr, nid i benderfynu sefyll allan hefo nhw, ond i seboni perchnogion y chwaral ac i ddiolch yn seimlyd iddyn' nhw am 'u haelioni. Ia, pabwyr ac nid pobol, Edward, gwaetha'r modd. Mi driais i sefyll yn gadarn droeon, a'r canlyniad fu imi orfod rhybela am flynyddoedd—begera hyd y chwaral. 'Roedd Catrin a finna' heb blant, ne' dyn a'n helpo ni. Mi faswn fel yr hen Enoc Jones ers talwm yn mynd at Smith y Stiward Gosod i ofyn am fenthyg 'i gar a'i geffyl o un pnawn Sadwrn Tâl Mawr. I be' chi isio the cart?' gofynnodd