Tudalen:Chwalfa.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Bradwyr oeddan' nhw-tan yr wsnos yma. Ond maen' nhw wedi gadael y chwaral a phenderfynu sefyll hefo'r dynion. 'Roedd isio tipyn o ddewrder i wneud hynny, Edward, ac mi hoffwn i i'r cwarfod heno roi croeso iddyn nhw yn ôl i'r gorlan."

"Mi wnawn hynny, Robat Williams. Be' ydi'u henwa' nhw, hefyd? Owen ydi enw'r hyna', yntê?"

"Ia, a John ydi'r llall. Maen' nhw ar gyfeiliorn ers blwyddyn bellach-fel y rhan fwya' o ddynion Tre Gelli. Ond mae'r peth wedi bod fel hunlla' ar 'u meddwl nhw, a nos Sadwrn dwytha', yr oedd y ddau yn sefyll yn y twllwch tu allan i'r Neuadd yn gwrando ar yr areithia'. Mi aethon' adra' a deud wrth 'u tad 'u bod nhw am gario'u harfa' o'r gwaith bora Llun. 'Rargian, yr oedd 'na le yn y tŷ y noson honno, yr ydw' i'n siŵr! Mae Wil El fel matsan, fel y gwyddost ti, ac yn un o'r Bradwyr cynta'. Rho groeso cynnas iddyn' nhw heno, Edward. Am wn i nad ydi'r hogia' yna'n llawn mor ddewr â ni sy wedi sefyll allan cyhyd."

"Yr ydw' i'n dallt fod 'na bobol wrthi'n beio'r Pwyllgor eto, yn gofyn pam na wnawn ni rywbath yn lle siarad. 'Fydda' o ryw fudd imi sôn am hynny?"

"Dim o gwbwl. Dim ond gwneud fel y byddan' nhw yn Llannerch-y-medd pan fydd hi'n bwrw glaw."

"Be'?

"Gadael iddi," atebodd Robert Williams mor sobr â sant. "Ond mi elli sôn am yr hyn ddaru ni basio y noson o'r blaen, i drio cael rhyw gymod cyn y 'Dolig, os oes modd yn y byd."

"Sut mae'r Atgofion' yn dŵad ymlaen, Robat Williams?" gofynnodd Edward Ifans ymhen ennyd.

O, yr ydw' i'n sgwennu rhyw gymaint bob dydd, wsti, ond 'wn i ddim a wêl y peth ola' dydd byth. Gan bwy mae diddordab yn hanas hen chwarelwr cyffredin fel fi, yntê? Ond fe ddylai'r deunydd fod yn ddiddorol i bobol. Mae'r to newydd yn meddwl bod petha'n galad ofnadwy arnyn' nhw. Maen' nhw'n galad, ac mae'n rhaid inni ymladd i ennill cyflog byw a chael ein parchu fel dynion. Ond 'dydyn' nhw ddim yn cofio 1860 a chyn hynny-yr iro llaw, y llwgrwobrwyo melltigedig a oedd yn y chwaral. Arian, gwirod, barila' cwrw, da pluog, fancy cats, modrwya', tlysa'—'roedd pob math o betha'n cael 'u cludo i'r Stiwardiaid, amball un yn gwerthu'r