Tudalen:Chwalfa.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o rwgnach mewn islais bygythiol drwy'r chwarel, torrodd yr helynt drachefn, ac unwaith eto tuag at Robert Williams a "J.H." yr edrychai pawb. Ysgydwodd Robert Williams ei ben, gan ddweud y dylent ddewis siaradwr mwy huawdl a thanbaid nag ef. Ond ni wrandawai neb arno: iddynt oll yr oedd ef yn ymgorfforiad o'r chwarelwr cydwybodol, diwylliedig, dewr a doeth ar ei orau. Nid huawdledd a oedd arnynt ei eisiau, meddent, ond cadernid, cywirdeb tawel, cymeriad dilychwin. Mewn gair, Robert Williams.

"Ia, yr hen Foses druan," aeth ymlaen yn freuddwydiol, fel petai'n siarad ag ef ei hun."Ond yn rhyfadd iawn, ar 'i ffordd i lawr o'r mynydd, ychydig mae o'n feddwl am y dyddia' pan oedd o ar fin torri'i galon yn yr hen anialwch 'na. 'Dydi o ddim yn cofio am y bobol daeog, y rhai oedd yn grwgnach byth beunydd ac yn 'i feio fo am 'u harwain nhw i'r fath le. Cofio y mae o am y rhai oedd yn trio'i helpu o weithia', am y bobol ffyddiog a deallus, am rywun ddaru wasgu'i fraich o'n dynar ryw noson pan oedd o bron ag ildio, am yr hen frawd ddaru ddiolch iddo fo am 'i ddwyn o mor bell i gyfeiriad Canaan, am y tad a oedd mor falch na fyddai'i blant o byth yn gwbod be' oedd bod yn gaethion yn yr Aifft."

Suddodd Robert Williams i'w freuddwydion am ennyd a bu tawelwch rhyngddynt. Tywyllai'r ffenestr fel y chwythai'r gwynt gawod o eira i'w herbyn.

"Mae arna' i ofn y bydd yr eira 'ma'n cadw dynion o'r cwarfod," ebe Edward Ifans.

"Bydd. 'Fydd 'na ddim llawar yno. Gyda llaw, Edward, mae arna' i isio iti wneud dau beth fel Cadeirydd heno. Yn gynta', yr ydw' i'n meddwl y dylem ni basio cynnig o ddiolchgarwch yn gyhoeddus i Bwyllgor Llundain. Yn agos i bum mil o bunna' maen' nhw wedi'u casglu mewn byr amsar i'n helpu ni. Mae "J.H." wedi sgwennu atyn' nhw ddwywaith ne' dair, ond mi fydda'n beth da i'r dynion fel corff gydnabod 'u haelioni nhw."

"Mi ofala' i am hynny. A'r ail beth?"

"'Rwyt ti'n 'nabod William Ellis, Tre Gelli?"

'Wil Bach Sir Fôn, chwedl ninna'? Ydw'n iawn."

"Mi ddaeth 'i ddau fab o i 'ngweld i y noson o'r blaen. Mi fyddan' yn y cwarfod heno."

"Ond nid . . . nid Bradwyr ydyn' nhw?"