Tudalen:Chwalfa.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn falch o'r peswch a ddaeth trosto—er mwyn cuddio'i deimladau.

Dolydd a llethra' heulog ac afonydd arian," meddai pan ddaeth ato'i hun."Ond dim ond am funud y gwelodd o nhw, oherwydd 'fedra' fo yn 'i fyw glirio dagra' llawenydd o'i lygaid. Ac yno, ar unigrwydd uchal y graig, mae o'n syrthio ar 'i linia' ac yn crio fel plentyn. O diolch iti, Arglwydd,' medda' fo, diolch iti am fod mor garedig wrth hen ŵr. Mi wn i na cha' i ddim croesi i wlad yr addewid, ond diolch iti, Arglwydd mawr, yn dy ryfadd ddaioni, am imi gael golwg ar 'i gogoniant hi.' Ac ar ôl sefyll yno'n hir, er bod yr awal yn fain a 'fynta' wedi chwysu a blino wrth ddringo, mae o'n mynd i lawr yn ara' i'r niwl a'r rhosydd islaw."

Ai Moses a ddisgrifiai'r hen ŵr yn y gwely? gofynnodd Edward Ifans iddo'i hun. Neu, ai ei ymdrechion a'i obeithion ef ei hun a ddarluniai? A welai'r hen arweinydd dewr hwn fyth wlad yr addewid, tybed? Rhyfedd fel yr oedd anawsterau a rhwystrau a blinfyd yn deffro'r arwr mewn dyn. Blaenor dwys, ond â llawer o ddireidi hefyd ynddo, yn arbennig yn ei anerchiadau yn y Seiat; gweddïwr syml, diffuant; athro Ysgol Sul hynod wreiddiol; Arweinydd Canu hyddysg a deheuig, er na fu ganddo erioed lais i ymffrostio ynddo; Llywydd y caban ym Mhonc Victoria, a'i bwt o araith bob amser yn felys fel cneuen—dyna oedd Robert Williams cyn y streic ddiwethaf, bum mlynedd yn ôl—na, yn agos i chwe blynedd erbyn hyn, onid e? Yna, pan ddaeth y streic honno, troes llygaid ei gyd-weithwyr oll tuag at y dyn tawel, unplyg, diymffrost, hwn. A heb godi'i lais na tharo dwrn ar fwrdd, dywedodd wrthynt y brwydrai ef i'r pen ac y disgwyliai iddynt hwythau, bob un ohonynt, wneud yr un modd, heb gloffi na gwanhau pa mor anodd bynnag fyddai'r llwybr. Ac o dan ei arweiniad ef, fe gerddodd pawb yn eofn drwy aeaf creulon o oer. Pan welwyd hysbysiad un diwrnod fod yr awdurdodau'n barod i ailagor y chwarel " for charitable reasons" ac y sibrydid bod amryw wrthi'n casglu enwau'r rhai petrus, "'Dydw' i ddim llawar o Sais," meddai Robert Williams mewn cyfarfod o'r dynion, " ond maen' nhw'n deud wrtha'i mai' cardod' ydi ystyr y charitable reasons' 'ma. Dyna oeddan ni'n gael yn lle cyflog cyn y streic, yntê?" A brwydrwyd ymlaen i aeaf arall a chytundeb gwych—ar bapur. Wedi tair blynedd