Tudalen:Chwalfa.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fe gafodd eich bachgen chi fynd i'r . . . y . . . Coleg, ond do? Ac oni bai am y streic, yn y Coleg y basa' fo o hyd, yntê?"

"Mi ddaru Martha a finna'. . aberthu er 'i fwyn o." Arhosodd ennyd o flaen y gair aberthu' i'w bwysleisio."O, yr ydach chi'n ôl yn fuan, Martha," meddai wrth ei wraig, a âi heibio iddynt.

"Dim ond rhedag i'r Post hefo llythyr at Meri Ann. . . O, pnawn da, Mr. Price-Humphreys.'

Pnawn da, Mrs. Ifans. Wel . . . y.

Wel . . . y . . . meddyliwch am yr hyn ydw' i wedi'i ddweud wrthach chi, Edward Ifans. Y . . . cyn y cyfarfod heno, yntê? Pnawn da i chi'ch dau 'rŵan . . . y . . . pnawn da."

Yr oedd yn tynnu at amser y cyfarfod. Cododd Dan, a ddaethai adref tua phedwar.

"Mi a' i'n gynnar," meddai."Mae arna' i isio gair hefo un ne' ddau o'r dynion ar gyfar nodiada' i'r Gwyliwr'.

"O'r gora', 'machgan i," meddai'i dad."'Fydda' inna' ddim yn hir."

Gwenodd Martha Ifans ar ei gŵr wedi i'w mab frysio ymaith.

"Mae Dan yn fo'i hun unwaith eto, Edward. Ac mi wnaeth imi gymryd y pedwar swllt 'ma. 'Doedd dim iws dadla' hefo fo . . . Be' ydach chi yn 'i wneud?"

"Dim ond newid f'esgidia'. Pam?"

"'Dydach chi ddim yn mynd i wisgo'ch 'sgidia' gora'? Mi wyddoch yn iawn na ddalian' nhw mo'r eira.'

"Ond 'dydw' i ddim isio clampio i fyny i'r llwyfan yn fy rhai hoelion-mawr, Martha."

"'Chewch chi ddim ista' yn y cwarfod am dros awr a'ch traed chi'n wlyb, mi wn i hynny." Daliai hi ei grafat o flaen y tân i'w gynhesu."Ac mi gewch lapio'r crafat 'ma'n dynn am eich gwddw."

Tu allan, yr oedd y nos yn olau er bod ychydig eira'n blu ysgafn, gwasgarog, ar flaen y gwynt. Wrth gerdded i lawr yr allt, gan ddechrau hefo tŷ Idris ac un Now'r Wern, cyfrifodd y tai gweigion ar bob llaw. Deuddeg un ochr, deg yr ochr arall. Os âi pethau ymlaen fel hyn, meddyliodd yn chwerw, byddai Tan-y-bryn yn stryd o dai gweigion cyn hir.