Tudalen:Chwalfa.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A'r stryd fawr yn rhes o siopau gweigion, chwanegodd wrtho'i hun fel yr âi heibio i dair ohonynt wrth ymyl ei gilydd.

Oedodd yn nrws y Neuadd i sgwrsio â rhai o'r dynion, pob un ohonynt yn ddwys eu cydymdeimlad ag ef yn ei brofedigaeth. Aethai amryw ohonynt, fe gofiai wrth siarad â hwy, drwy brofiadau tebyg yn ddiweddar, ond ni chiliodd y dewrder tawel o'u llygaid. Yr oedd yn werth ymladd ysgwywydd wrth ysgwydd â gwŷr fel hyn, meddyliodd fel y cerddai drwy'r Neuadd tua'r llwyfan.

Wedi iddo eistedd wrth y bwrdd ar y llwyfan, syllodd yn hir ar yr wynebau penderfynol o'i flaen. Mor welw a thenau oeddynt! Fel rheol yn y cyfarfodydd hyn, eisteddai ef yn un o'r seddau blaen a'i gefn at y gynulleidfa. Y tro diwethaf iddo fod ar y llwyfan oedd yn y cyfarfod mawr yn niwedd Awst, a thybiodd y pryd hwnnw fod gwrid iachus ar wynebau'r dynion er gwaethaf y newyn a'r caledi a'r pryder oll. Tipyn o liw haul ydoedd, meddai wrtho'i hun, gan gofio iddo sylwi droeon yn ddiweddar ar lwydni gwedd hwn ac arall ar y stryd.

Ond yn awr gwelai dorfo wynebau o'i flaen, ac ymddangosai pob un yn llym, esgyrniog, a llinellog dan y golau a'r cysgodion a daflai'r lampau olew. Dychrynodd wrth eu gweld, a daeth tristwch a lludded enfawr trosto. Teimlai'i ysgwyddau'n crymu dan y baich a'i lygaid blin yn cau i chwilio am dynerwch gwyll. A oedd yr ymdrech yn werth y draul? Onid curo â dwylo noeth yn erbyn muriau o graig a dellt yr oeddynt? Muriau ogof droeog heb lygedyn o olau o un cyfeiriad i ddweud bod ffordd allan ohoni. Cofiodd am y tai gweigion yn Nhan-y-bryn ac am dlodi ofnadwy rhai o'r lleill, am siopau gweigion y stryd fawr, am lygaid gorchfygedig ei frawd John, ac am stori Martha am yr hen William Parri a'i fab dideimlad, Twm. Deuai'r Nadolig yn fuan, a mawr fyddai'r addurno a'r anrhegu a'r miri mewn ambell dŷ; yn y drws nesaf, efallai, bara sych ac esgus o dân. . .

"Mae'n well inni ddechra', Edward," sibrydodd 'J.H.'

Nodiodd yntau, gan agor ei lygaid a gwenu'n wan arno. Gwasgodd J.H.' ei fraich ag un llaw fel y gwthiai ato â'i law arall bapur ag arno enwau'r siaradwyr a nodiadau ar drefn y cyfarfod. Teimlai gryfder fel pe'n llifo i'w fraich a thrwy'i gorff i gyd, a chynyddodd y nerth fel y taflai olwg ar enwau Mr. Edwards y gweinidog; 'J.H.'; Robert Jones, un o