Tudalen:Chwalfa.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

acw a chofiais fod rhyw bedwar cant ar ddeg o ddynion, cannoedd ohonyn' nhw â'u teuluoedd hefo nhw, wedi gadael yr hen ardal 'ma. 'Faint ohonyn' nhw ddaw yn ôl, ni ŵyr neb. Cofiais hefyd fod y . . . y fynwent acw yn ehangach o dipyn nag oedd hi flwyddyn yn ôl. Yr oeddwn i'n barod i ofyn hefo'r hen batriarch Job: Pa nerth sydd i mi i obeithio? Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? A ydyw fy nghnawd o bres? Ond mi gofiais hefyd ein bod ni'n ymladd i fod yn rhydd yn rhydd rhag angen, yn rhydd rhag ofn.

"A enillwn ni'r frwydyr? 'Wn i ddim. Mae'r pedwar cant ohono' ni sy'n aros yn yr ardal yn byw ar chweugian yr wsnos o'r Undab ne' ar bres o'r Gronfa. Mae'n rhaid inni, chwerw bynnag ydi meddwl am y peth, mae'n rhaid inni yn hwyr neu'n hwyrach wynebu'r posibilrwydd o weld arian yr Undab yn lleihau. Mae Llechfaen a'r cylch wedi bod yn faich trwm ar yr Undab. 'Ga' i wneud apêl at y rhai hynny ohonoch chi sy'n teimlo'n ddigon ifanc ac iachus i fentro i'r Sowth, neu rhywla lle mae gwaith i'w gael, i ystyriad gwneud hynny? Mae'n rhaid inni ysgafnhau'r baich ar yr Undab ac ar Gynghrair Cyffredinol yr Undebau Llafur, sy wedi bod mor hynod garedig wrtha' ni drwy'r ymdrech i gyd. Petai'r cymorth hwnnw'n lleihau neu yn methu, newyn a fydd yn ein hwynebu ni. Mae amryw'n dal i siarad am derfyn buan i'r anghydfod, ac mi wn i am lawer sy'n aros yn obeithiol yn 'u hen ardal gan ddisgwyl clywed newydd o ddydd i ddydd. Fel y dywedodd Robert Williams droeon o'r gadair yma yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwetha', y mae'n well inni fod yn onest â'n gilydd ac â ni'n hunain. 'Dydi Canaan ddim yn y golwg, chwedl ynta', ac er bod manna wedi disgyn fel pe o'r nefoedd droeon, efalla' mai'r anialwch sy o'n blaen ni fydd y rhan fwyaf anodd a blin o'r holl daith.

"Pam y mynnwn ni fynd ymlaen, ynta', a llwybyr arall hawdd a rhwydd yn agored inni? Am ein bod ni'n credu yng nghyfiawnder ein hachos, yn sicir fod ein traed ni ar y ffordd sy'n arwain i'r bywyd, i fywyd llawnach a helaethach chwarelwyr y dyfodol. Na chais iawn ond o gymod,' medd hen air, yntê? Prawf o'n ffydd ni yn ein hachos ydi ein bod ni wedi trio cymodi dro ar ôl tro, wedi cynnig am gyflafareddiad ar bob un o achosion yr helynt. Yr ydym yn barod i hynny o hyd, yr yfory nesaf, yn barod i osod ein cwyn-