Tudalen:Chwalfa.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion o flaen unrhyw ganolwr diduedd. Cynrychiolwyr o'r Pwyllgor, neu o ddynion tu allan i'r Pwyllgor, neu ganolwyr o'r Cyngor Sir neu o'r Senedd neu o'r Bwrdd Masnach yn ôl Deddf Cymod 1896-byddem yn fodlon sefyll neu syrthio wrth yr hyn a benderfynid ganddyn' nhw mewn ymgynghoriad â'r awdurdoda'. Ond y mae'r drws wedi'i gau yn ein hwyneba' ni bob tro, ac wedi'r hir ddiodda' a'r aberthu fe ddisgwylir inni ddwyn yr helynt i'w derfyn drwy ildio'n ddiamodol. Mewn geiriau eraill 'Trechaf, treisied; gwannaf, gwaedded.'"

Gwyrai'r siaradwr ymlaen, â'i ddwy law ar y bwrdd, a llefarai'r frawddeg olaf yn dawel â chwerwder mawr yn ei lais. Yna ymsythodd i'w lawn daldra wrth chwanegu:

"Y mae'n wir mai ni sy wannaf mewn adnodda' materol. Ond y mae cryfder argyhoeddiad yn ein henaid ni, a'n traed ni'n gadarn ar graig egwyddor."

Derbyniwyd y geiriau â chymeradwyaeth uchel, ac wedi iddo dawelu, daliai llawer hynafgwr i amenu'n ddwys yn ei wddf.

"Dywedir wrthym, ar lafar ac ar lawr, ar y stryd yn Llechfaen ac mewn ambell bapur newydd, a hyd yn oed mewn areithia' yn y Senedd, fod y Bradwyr yn mynd o nerth i nerth, fod dros naw cant o'n hen gyd-weithwyr ni yn ôl yn hapus yn y chwarel erbyn hyn. Efalla' fod rhyw naw cant o ddynion yno, ond nid ein hen gyd-weithwyr ni ydi rhai cannoedd ohonyn' nhw—y gweision ffermwyr o Fôn, y siopwyr wedi methu â chael dau ben llinyn ynghyd, y llafurwyr o bob math heb fod mewn chwarel erioed o'r blaen. Yr ydw' i'n dallt mai gweiddi 'Penwaig!' hyd y dre 'na 'roedd un ohonyn' nhw cyn iddo fo benderfynu troi'n chwarelwr."

Maen' nhw'n 'i iwsio fo i weiddi Ffaiar!' amsar tanio," llefodd rhywun o gefn y Neuadd.

"Mae Ned Biwglar am gael y sac," gwaeddodd llais arall. Barbwr, maen' nhw'n deud i mi, oedd un arall," aeth Edward Ifans ymlaen wedi i'r chwerthin dawelu.

"Ia, a barbwr sâl gynddeiriog!" rhuodd llais dwfn yr hen Ifan Tomos, taid Os.

"Y gwir ydi," meddai'r Cadeirydd, "fod rhif y Bradwyr heb gynyddu ond ychydig iawn yn ystod y misoedd diwetha' 'ma. Mae dwy fil ohono' ni yn dal i sefyll yn gadarn ac yn