Tudalen:Chwalfa.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwrthod bradychu'n cyd-weithwyr drwy sgrifennu'n ddirgel i swyddfa'r chwarel. A ydi'n bosibl fod dwy fil o ddynion, y mwyafrif mawr ohonyn' nhw yn weithwyr cydwybodol ac yn gapelwyr selog, yn gwyro mewn barn ac egwyddor, a'r chwe chant—yn 'u plith nhw lawer oedd yn licio ymffrostio nad oeddan' nhw na chydwybodol na chrefyddol—yn ddoeth a chyfiawn? Yr ydan ni'n gofyn i'r awdurdoda' ystyriad y cwestiwn yna, 'i ystyriad o'n ddwys a difrifol, heb falais na dicter na dialedd. Ac wedyn gyfarfod ein cynrychiolwyr ni, y ddwy ochr mewn ysbryd cymodlawn, brawdgarol. Pe digwyddai hynny, fe ddôi terfyn buan ar yr helynt flin yma sy wedi dwyn cymaint o gyfyngder gyda hi. Yr ydym wedi gofyn am hyn droeon, ond fe drowyd clust fyddar i'n cais. Yn awr, yn wyneb dioddef y gwragedd a'r plant, yn wyneb y trueni sy'n nychu'r holl ardal, yr ydym yn erfyn yn hytrach na gofyn."

Yr oedd y gynulleidfa o wŷr wynepllym yn dawel iawn, heb fod yn sicr a ddeallent berwyl y geiriau olaf, ac anesmwythai llawer un ar ei sedd."Erfyn?" Pwy? Gwthiodd yr hen ymladdwr Ifan Tomos ei ên allan.

"Peidiwch â'm camddeall i, gyfeillion. Nid erfyn am drugaredd na chardod ydw' i'n feddwl: 'does neb ar y Pwyllgor na thu allan iddo a wnâi hynny. Ond erfyniwn am gyfarfod mewn ysbryd heddychlon, a llygaid y ddwy ochr fel 'i gilydd yn syllu'n ddwys ar gyni'r gwragedd a'r plant. Mae'r Nadolig yn agos, trydydd Nadolig y streic ar y ddaear, tangnefedd; i ddynion, ewyllys da. Pe caem ni, yn was a meistr, yn llafurwr a swyddog, gyfarfod yn ysbryd yr Wyl, fe giliai fel y niwl o afael nant' yr amheuon a'r anawsterau oll. Yr ydym yn barod, os bydd raid, i ymladd hyd newyn: yr ydym yn barod hefyd i geisio cymod—yn awr, yr yfory nesaf."

Eisteddodd Edward Ifans i lawr am ennyd, gan wylio'n bryderus effaith ei eiriau ar y dynion. Gwyddai fod ambell un ystyfnig iawn yn eu plith, ac nad ymostyngent ddim hyd angau. Un felly oedd yr hen Ifan Tomos, a haerai yr âi ef i'r Wyrcws cyn yr ildiai fodfedd. Ond tynasai yntau ei ên yn ôl yn awr, a chofiodd Edward Ifans fod ei ferch, mam Os, yn bur wael. Gwyliodd ef yn nodio'n ffwndrus ac anfoddog, heb ymuno yn y curo-dwylo, a'i wefusau'n crynu. Mwy nag mewn hen dderwen, nid oedd plygu yn ei natur: ei lorio, nid ei ysigo, a fynnai ef.