Tudalen:Chwalfa.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cafodd Mr. Edwards, gweinidog Siloh, dderbyniad cynnes iawn. Yr oedd Y Gwyliwr wedi agor Cronfa Plant Llechfaen a -diolch i ymdrechion folcanig yr Ap mewn ysgrif ac araith ac ymgom-llifodd rhai cannoedd o bunnau iddi. Mr. Edwards oedd Ysgrifennydd y pwyllgor lleol a ddosbarthai'r arian, ac apeliai yn awr am iddynt gael gwybod am bob achos o wir angen ymhlith y plant. Estynnwyd cymorth yn barod i ugeiniau, meddai, ond gwyddai ef o'i brofiad personol fel gweinidog fod digon o achosion gwir deilwng na hysbysid y pwyllgor amdanynt. Yr oedd llawer teulu'n rhy annibynnol i fynd ar ofyn neb ac yn benderfynol o ymladd ymlaen yn ddigymorth, costied a gostio. Camgymeriad mawr oedd hynny, ac os gwyddai cymydog am blentyn neu blant yn ei stryd ef a oedd yn dioddef, yna ei ddyletswydd oedd hysbysu'r pwyllgor ar unwaith fel y byddai'r arian yn cyrraedd pob un yr oedd eu hangen arno. Areithiodd J.H.' wedyn yn huawdl a miniog ar yr hyn a alwai'n betruster cysurus, saff' y Bwrdd Masnach, yna Robert Jones yn ddwys, Richard Owen yn danbaid, yr hen Ifan Pritchard yn ddigrif. Pasiwyd y cynnig o ddiolch i Bwyllgor Llundain, derbyniwyd y ddau lanc o Dre Gelli yn ôl yn wresog, canwyd emyn fel arfer, a throes pawb yn dawel o oerni'r Neuadd i oerni mwy y nos. Ar ei ffordd allan yng nghwmni Mr. Edwards a Dan, nodiodd Edward Ifans yn gyfeillgar ar yr hen Ifan Tomos, a sgwrsiai â rhywun yn ymyl y mur.

"Nos dawch, Edward," gwaeddodd y cawr."A, rhag ofn na fydda' i ddim yma Sadwrn nesa', Nadolig Llawan!"

Nadolig llawen . . . Siaradai Dan a Mr. Edwards am Gronfa'r Plant, ond prin y clywai Edward Ifans air . . . Nadolig llawen. Heb Gwyn? Fe dorrai Martha druan ei chalon yn lân. Ond efallai y byddai Llew gartref erbyn hynny. Gobeithio'n wir, gobeithio i'r nefoedd. Llew a Dan a Megan a'i phlentyn—pe caent hwy oll am y dydd . . . Rhaid iddo sôn wrth Megan am y peth . . . Ac ychydig ddyddiau cyn y 'Dolig yr oedd pen-blwydd Gwyn, yntê? . . . Rhaid, rhaid iddo sôn wrth Megan yn ddiymdroi . . .

Bore trannoeth wedi iddo gyrraedd adref o'r capel, eisteddodd Edward Ifans wrth dân y gegin fach yn gwylio Martha'n paratoi tamaid o ginio.