"'Oedd 'na dipyn yno bora 'ma, Edward?"
"Na, tena' iawn oedd hi. 'Wn i ddim oedd 'na ddwsin yno. A phobol mewn oed i gyd, pawb ond Dan."
Lle mae Dan?"
"Wedi aros ar ôl i gael gair hefo Mr. Edwards. 'Roeddan' nhw'n arfar bod yn gryn ffrindia', ac 'rydw' i'n falch 'u bod nhw'n tynnu at 'i gilydd eto."
"A finna'. Dyn da ydi Mr. Edwards . . . O, Edward, mi wnes i rwbath ddoe heb ofyn eich barn chi. Mi sgwennis at Meri Ann. 'Ddaru chi ddim gofyn be' oedd yn y llythyr, a 'wnes i mo'ch poeni chi neithiwr a chitha'n meddwl am araith ar gyfar y cwarfod."
"Diolch iddi hi am 'i holl garedigrwydd yr oeddach chi?"
"Ia. A gofyn cymwynas. Dros Megan."
"Megan?"
"Mi alwodd yma pnawn ddoe i grefu arna' i sgwennu trosti hi at Meri Ann. Mae hi wedi penderfynu gadael Llechfaen a mynd i weini i Lerpwl ne' rywla tebyg. 'Fedar hi ddim diodda' Albert Terrace na Letitia Davies nac Ifor ddim chwanag, medda' hi."
"Nac Ifor? Ond 'roedd hi'n cymryd arni wrtha' i . . .
Cymryd arni yr oedd hi. 'Chydig iawn mae hi'n weld arno fo ers tro. Mae hi'n 'i godi fo at 'i waith yn y bora ac yn gwneud swpar-chwaral da iddo fo bob gyda'r nos, ond 'dydi hi byth yn cael gair o ddiolch gynno fo—yn wir, prin y mae hi'n clywad dim ond rheg o'i ena' fo. I ffwrdd â fo i'r Snowdon Arms' yn syth ar ôl bwyta, ac yno mae o'n treulio bron bob gyda'r nos. Ne' i lawr yn y dre. Mae o'n cyboli hefo rhyw hogan yno, medda' hi. A honno sy'n cael 'i bres o, mae arna' i ofn. 'Chydig iawn mae Megan yn gael gynno fo, beth bynnag."
"Hm. Ond beth am y plentyn?"
"Eiluned Letitia?" Llefarai Martha Ifans y geiriau â gwên fingam."Nid plentyn Megan ydi hi bellach. Hi sy'n cael y gwaith, wrth gwrs—newid 'i dillad hi, 'u golchi nhw, a chodi yn y nos pan fydd angan, ond Letitia Davies sy'n cymryd meddiant ohoni ar bob adag arall. Hi sy'n mynd â hi allan, yn rhodras a rhubana' i gyd, a 'does dim rhaid i'r plentyn ond crio nad ydi Letitia'n rhuthro yno at y 'licl enjal,' chwedl hitha', ac yn tafodi Megan am fod yn greulon