Tudalen:Chwalfa.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrthi. Eiluned Letitia ydi popath iddi; mae hyd yn oed Ifor wedi mynd i'r cysgod yn llwyr erbyn hyn. A'r plentyn sy'n rheoli'r tŷ. 'Does wiw i Gruffydd Davies besychu ne' dishan pan fydd hi'n cysgu: mae'r dyn yn cerddad o gwmpas fel byrglar yn 'i dŷ 'i hun."

"Ond pam na ddaw hi yma atom ni, hi a'r plentyn?"

"Y pedwar ohono' ni i fyw ar chweugian yr wsnos, Edward?

"Mi fasa' Ifor yn rhoi rhan o'i gyflog iddi yr un fath."

"'Fasa' fo?"

Wel, mi fyddai'n rhaid iddo fo dalu at gadw'i wraig a'i blentyn."

'Bydda', ar ôl i Lys Barn 'i orfodi o.

Ond efalla' y byddai'n rhaid inni aros am rai misoedd cyn y digwyddai hynny. Fel hyn y mae Megan a finna' wedi bod yn siarad . . .

"Ia, Martha?

"Efalla' mae'r peth doetha' ydi iddi hi fynd i ffwrdd i weini a chael cychwyn o'r newydd. Mi fasa'n gadael y babi yma hefo mi ac yn gyrru arian o'i chyflog ar 'i chyfar hi. Hynny ydi, os ydach chi'n barod i ddiodda' sŵn plentyn yn y tŷ 'ma eto, Edward."

Wel, mae digon o le iddi hi, Martha bach, gwaetha'r modd, ac mi fasa' hi'n llonni tipyn ar yr aelwyd, on' fasa'?"

"Basa', wir, Edward-os bydd modd 'i chael hi o afael y Letitia Davies 'na."

"Wel . . . efalla' fod Megan yn gwneud yn ddoeth i fynd i weini, Martha. Fe rydd hynny fywyd newydd ynddi hi. Mae hi wedi mynd i edrach yn flêr a thew a llipa'n ddiweddar, fel petai hi wedi colli pob balchder ynddi'i hun."

Mi fydd yn chwith i'r Letitia Davies 'na ar 'i hôl hi, mi wn i hynny. Mae hi wedi cael morwyn dda i slafio'n ddigon rhad iddi."

Pryd y daru Megan benderfynu ar hyn?

"Mae'r peth wedi bod yn 'i meddwl hi ers tro, ond pnawn ddoe y torrodd y storm. Mi fytodd Ifor 'i ginio ar frys gwyllt, ac wedyn i'r llofft â fo i newid. 'Roedd o isio dal y trên hannar awr wedi un i fynd i'r dre, medda' fo. Mi aeth Megan i fyny'r grisia' ar 'i ôl o a deud y liciai hitha' fynd i'r dre hefo fo. Mi wnaeth esgusion i ddechra' ac wedyn, pan soniodd hi am y straeon oedd hi wedi glywad amdano fo yn y dre 'na, mi wylltiodd yn gacwn. Pan ddaeth y ddau i lawr i'r gegin, fe