Tudalen:Chwalfa.djvu/231

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fu raid i Letitia Davies gael ymyrryd a dweud mai gartra' hefo'r plentyn oedd 'i lle hi ac nid yn galifantio hyd y dre. Mi gollodd Megan 'i thempar wedyn. 'Nid fy mhlentyn i ydi hi,' meddai, dim ond pan fydd isio golchi'i napcyn hi ne' godi ati yn y nos. Wel, gwnewch yn fawr o'r cyfle i'w sbwylio hi cyn imi fynd â hi o' ma. Yr ydw' i'n mynd i weini i Lerpwl ne' rywla a gadael y plentyn yn ' Gwynfa'. Piti na faswn i wedi gwneud hynny flwyddyn yn ôl.' Mi ddaeth yn syth yma wedyn i ofyn imi sgwennu trosti hi at Meri Ann."

Daeth ateb buan oddi wrth Meri Ann. Gwnaethai nodyn, meddai, o amryw o hysbysebion yn y papurau newydd a galwai i weld rhai o'r lleoedd. Y drwg oedd mai enwau Saesneg a oedd wrthynt oll, a chredai y buasai Megan yn llawer hapusach hefo teulu Cymraeg. Siaradai â phobl yn y capel ddydd Sul; gwyddai am un teulu o gyffiniau'r Bala—" pobol od o neis "a fu'n sôn yn ddiweddar iawn am gael morwyn o Gymru. Câi Martha air eto ddechrau'r wythnos.

Bore Iau, bore'r Nadolig, y daeth y llythyr nid oedd y wraig o Feirion yn y capel ddydd Sul ac aethai Meri Ann i'w gweld nos Lun. Byddai, fe fyddai'n falch o gael Megan yn forwyn a gallai ddyfod yno pan fynnai. Pymtheg punt y flwyddyn oedd y cyflog, a châi fwyd da a chartref cysurus iawn.

"Mi fydd Megan wrth 'i bodd, Edward," meddai Martha Ifans. Petai hi yn rhywla ond Albert Terrace mi redwn i i fyny i ddeud wrthi y munud yma. Dyma ryw gymaint o lawenydd inni ar fora Nadolig, beth bynnag. Ac erbyn y 'Dolig nesa' mi fydd Eiluned bach wedi ennill 'i lle yma."

Ond pan gyrhaeddodd hi yn y prynhawn—heb Eiluned Letitia, a oedd yng ngofal rhubanog ei nain—nid oedd Megan wrth ei bodd. Cronnodd dagrau yn ei llygaid pan glywodd y newydd.

"'Fedra' i ddim mynd," meddai'n floesg, a syllodd ei thad a'i mam a Dan yn fud arni."Fedra' i ddim mynd." Yna, eisteddodd wrth y tân a thorri i feichio wylo. Yr ydw' i'n mynd . . . i gael . . . plentyn arall. A 'does ar neb . . . isio . . . morwyn felly."

Yr oedd noson olaf y flwyddyn yn dawel iawn. Flwyddyn ynghynt, casglodd tyrfaoedd hyd y strydoedd i aros am sain