Tudalen:Chwalfa.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hen long pan wnes i, yntê? Wn i ddim be ddaw o'r hen Seimon Roberts rwan—os gwellith o o'i waeledd. Mynd at i frawd Dwalad i Sir Fôn mae'n debyg, gan obeithio y bydd i goesau fo yn byhafio yno. Ond mae arna i ofn fod yr hen Seimon yn go wael. Mi alwais i i'w weld o wythnos yn ol yn i lodjing yn Aber Heli ac yr oedd o'n edrych yn gwla iawn. "Yr ydw i'n wintro am dipyn cyn cychwyn ar y feiej ola un, Llew, ngwas i," medda fo wrtha i. Ac mi fydd clywed bod y Snowdon Eagle yn cael i thorri i fynny yn ergyd drom i'r hen frawd.

Mae Capten Huws yn deud fod i frawd o, Capten William Huws, am riteirio o'r môr—nad aiff o ddim ar stemar dros i grogi. "Cwt sindars" mae o'n galw stemar. Llong hwyliau neu ddim iddo fo fel i'r hen Seimon.

Diolch am yrru'r llythyr oddi wrth Idris ymlaen imi. Dim newydd o bwys ynddo fo, dim ond diolch imi am yrru'r presant i Gruff ar i ben blwydd a thafod am ddewis llong, gan fod y cena bach yn mynd i lawr at yr afon fudur i'w nofio hi! Kate wedi cael yn agos i wythnos yn i gwely eto medda fo, ond wedi codi rwan ac yn brysur yn hel pethau at i gilydd i wneud danteithion ar gyfer y Dolig. Diar, un dda am daffi oedd Kate, yntê? Un dda gynddeir, chwadal yr hen Seimon Roberts.

Yr ydw i'n dal i stydio'n galad ac y mae'r Capten yn fy helpu i bob cyfla gaiff o. Deudwch wrth Huw Deg Ugian, os gwelwch chi o, y bydda i wedi pasio'n Gapten cyn iddo fo gael i wneud yn farciwr cerrig hyd yn od.

Dim chwanag rwan neu mi fyddwch yn meddwl fy mod i'n sgwennu o Rio a heb eich gweld chi ers cantoedd!

Cofion cynnes iawn,

LLEW.

"Mae o'n swnio'n reit glonnog," ebe Edward Ifans."A 'dydi o ddim yn sôn gair am y chwaral. Mae o wedi dŵad dros 'i siom, mae'n amlwg."

"Ne' yn 'i guddio fo, Edward. Dyna pam y mae o'n stydio mor galad, efalla'. I guro Huw Deg Ugian,' chwadal ynta'. Pam yr oedd Huw'n cael mynd yn ôl i'r chwaral a Llew ddim?"