Gwirwyd y dudalen hon
ym mhob rhan o'r chwarel, ac i bawb a oedd yn y gwaith roi eu harfau i lawr a sefyll yn bennoeth i wrando'n ddwys.
"O fryniau Caersalem ceir gweled
Holl daith yr anialwch i gyd;
Pryd hyn y daw troeon yr yrfa
Yn felys i lanw ein bryd . . ."
Gwyrodd Edward Ifans ymlaen yn y drws i syllu tua'r chwarel draw yn y pellter. Trawai llafn o heulwen oer Rhagfyr ar wyneb yr hen ŵr ar wyneb y graig.
Edrychodd Edward Ifans yn hir arno. Yr oedd ei wên mor anchwiliadwy ag erioed.